Rydym ni ym Mangor wedi defnyddio 'dibaratoad' yn y cyswllt hwn - ond
tybed a wnâi 'dieithr' y tro weithiau, h.y. cyfieithu 'darnau dierth' o
un iaith i'r llall?
Helen
Ysgrifennodd Glenys M Roberts:
> Oes rhai ohonoch yn cofio gwneud profion 'unseen' erstalwm? Cyfieithiad
> o ddarn nad oeddech wedi ei weld erioed o'r blaen. Ydych chi'n cofio a
> oedd enw Cymraeg ar y cyfryw brawf? (Trwy gyfrwng y Saesneg roedden ni'n
> cael ein dysgu yn Llangefni bryd hynny!) Oes term Cymraeg yn cael ei
> arddel heddiw? ('unseen time-constrained written examination' yw'r
> ymadrodd llawn sy gen i - nid cyfieithiad yn benodol ond 'normal exam,
> against the clock, where you don't know the questions in advance')
>
> Mae 'arholiad ysgrifenedig heb ei weld gynt' yn ymddangos ar Google
> (Rheoliadau Prifysgol Cymru) a gallwn ychwanegu 'o fewn amser penodol' -
> i gael ymadrodd hynod o slic! Os nad oes gan rywun gynnig gwell ...
>
> Diolch
> Glenys
--
H.K.Smith (Helen) [log in to unmask]
(Cyfieithydd/Translator) [log in to unmask]
* * * *
* * *
* * Cathod/Cats
* * Pianos
* *
*
|