Rydym ni ym Mangor wedi defnyddio 'dibaratoad' yn y cyswllt hwn - ond tybed a wnâi 'dieithr' y tro weithiau, h.y. cyfieithu 'darnau dierth' o un iaith i'r llall? Helen Ysgrifennodd Glenys M Roberts: > Oes rhai ohonoch yn cofio gwneud profion 'unseen' erstalwm? Cyfieithiad > o ddarn nad oeddech wedi ei weld erioed o'r blaen. Ydych chi'n cofio a > oedd enw Cymraeg ar y cyfryw brawf? (Trwy gyfrwng y Saesneg roedden ni'n > cael ein dysgu yn Llangefni bryd hynny!) Oes term Cymraeg yn cael ei > arddel heddiw? ('unseen time-constrained written examination' yw'r > ymadrodd llawn sy gen i - nid cyfieithiad yn benodol ond 'normal exam, > against the clock, where you don't know the questions in advance') > > Mae 'arholiad ysgrifenedig heb ei weld gynt' yn ymddangos ar Google > (Rheoliadau Prifysgol Cymru) a gallwn ychwanegu 'o fewn amser penodol' - > i gael ymadrodd hynod o slic! Os nad oes gan rywun gynnig gwell ... > > Diolch > Glenys -- H.K.Smith (Helen) [log in to unmask] (Cyfieithydd/Translator) [log in to unmask] * * * * * * * * * Cathod/Cats * * Pianos * * *