Diolch yn fawr iawn Ann a Bruce (a Nia - newydd weld y neges cyn anfon f'un i!). Mae'n siŵr bod hwn yn derm sy'n dibynnu i raddau helaeth ar y cyd-destun - gyda 'bod yn benodedig' yn ateb y diben yn enghraifft Ann a 'defnyddio penodedig(-ion)' neu 'dewis penodedig' yn addas ar gyfer cyd-destunau eraill. Ond rwy'n hoff o'r syniad o gael un gair, h.y. 'penodedigaeth', er mwyn cael term cryno a allai olygu unrhyw agwedd ar y broses, hynny yw dewis, defnyddio neu fod yn benodedig. Yr unig amheuaeth sydd gennyf yw na fyddai'n eglur i bawb ar yr olwg gyntaf ond pe baem yn meddwl felly drwy'r amser yna ni fyddai'r un term newydd yn cael ei fathu. Rwy'n siŵr bod llawer o grafu pen wedi bod wrth i bobl ddarllen 'appointeeship' am y tro cyntaf. 'Penodedigaeth' amdani felly!
Garmon
Garmon Davies
Ewrolingo
+44 (0) 1656 668603
www.ewrolingo.co.uk
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 20 May 2004 14:29
To: [log in to unmask]
Subject: Re: appointeeship
Mae Bruce yn dweud bod "penodedigaeth" yn "berffaith bosibl"!
Yr unig dro y bu'n rhaid imi ei gyfieithu, defnyddiais "bod yn benodedig".
Mi all weithio, yn ol y cyd-destun:
"Specialist day focused on learning disability and legal issues e.g. consent
/ appointeeship (adults and children)"
" Diwrnod arbenigol yn canolbwyntio ar anableddau dysgu a chwestiynau
cyfreithiol e.e.cydsyniad / bod yn benodedig (oedolion a phlant)"
Ann
----- Original Message -----
From: "Garmon Davies" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, May 20, 2004 12:06 PM
Subject: appointeeship
> Oes gan unrhyw un derm y mae wedi'i ddefnyddio am yr uchod os gwelwch yn
> dda? Mae GyrA yn cynnig 'penodedig' am 'appointee', felly a fyddai'n iawn
> defnyddio 'penodedigaethau' am yr uchod......?!?*?$%^?! (Apprenticeship =
> Prentisiaeth / Receivership = Derbynyddiaeth) ?
>
>
>
> Diolch yn fawr ymlaen llaw am unrhyw gynigion,
>
>
>
> Garmon
>
>
>
> O.N.
>
>
>
> Newydd geisio chwilio yn TermCymru ond nid yw ar gael ar y funud. Mi
> edrychais wedyn i weld a oedd tudalennau eraill ar wefan y Cynulliad yn
> gweithio a gweld bod y wefan wedi cael ei hailwampio'n gyfan gwbl. O leiaf
> mae'r blwch 'Teip Testun' afiach hwnnw i'w weld fel pe bai wedi diflannu!!
>
>
>
> Garmon Davies
>
> Ewrolingo
>
> +44 (0) 1656 668603
>
> <http://www.ewrolingo.co.uk> www.ewrolingo.co.uk
>
>
>
>
|