*Weithiau* oes, wrth gwrs. Ond mae hon yn enghraifft lle nad yw glynu at
gywirdeb yn mynd i greu dim anhawster i'r darllenwyr.
Os gall rhywun ddeall 'trosedd a chosb', does dim byd i'w stopio rhag deall
'troseddu a chosbi' oes e?
----- Original Message -----
From: "Geraint Løvgreen" <[log in to unmask]>
To: "David Bullock" <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, February 25, 2004 1:41 PM
Subject: Re: crime reduction
> Weithiau mae'n rhaid symud efo'r lli, David.
>
> Google - "Troseddu a chosbi" - 1
> "Troseddau a chosbau" - 14
> "Trosedd a chosb" - 297.
>
> (ac mae dadl Delyth yn un dda iawn, mae'n rhaid deud)
>
> ----- Original Message -----
> From: "David Bullock" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, February 25, 2004 11:47 AM
> Subject: Re: crime reduction
>
>
> > Ystyr 'trosedd a chosb' o'i droi i'r Saesneg yw 'a crime and a
> punishment'.
> > Mae'n debyg bod y cwrs hanes am ichi astudio mwy nag un trosedd a mwy
nag
> un
> > gosb, neu byddai'r cwrs drosodd mewn hanner gwers! Un ffordd o fynegi
> hynny
> > yw dweud 'Troseddau a chosbau' ac un arall yw 'Troseddu a chosbi'.
> >
> > Mae'n drist - ond yn wir - nad yw'r pethau ryn ni'n eu hastudio at TGAU
> > (neu'n eu darllen mewn cyhoeddiadau swmpus) ddim bob amser yn
ddibynadwy.
> >
> > Mae angen gofal wrth apelio at "awdurdod" rhyw ddatganiad dim ond ar y
> sail
> > ein bod wedi gweld y datganiad hwnnw mewn print - meddyliwch am stwff
Iolo
> > Morganwg er enghraifft. Faint o awdurdod sydd i waith un dyn bach yn
> > gweithio ar ei ben ei hun, dim ond am mai fe yw'r unig un, neu'r un
cyntaf
> > beth bynnag, i gyhoeddi rhywbeth? Mae'r hanesydd yn deall bod rhaid i
> > ffynonellau gael eu pwyso a'u mesur yn ofalus iawn cyn iddyn nhw ennyn
> digon
> > o goel i gael eu disgrifio fel 'awdurdod'.
> >
> >
> >
> > ----- Original Message -----
> > From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
> > To: "David Bullock" <[log in to unmask]>
> > Sent: Wednesday, February 25, 2004 11:24 AM
> > Subject: Re: crime reduction
> >
> >
> > > > Meddai Tegwen: "...mae defnyddio 'lleihau' (neu 'ostwng') o flaen
> > berfenw yn swnio'n chwithig - dwi'n teimlo bod angen dweud rhywbeth fel
> > 'gostwng lefel troseddu"
> > > >
> > > > Mae'n ddrwg gen i fod yn bedantig, ond dyna'r union reswm fyddwn
> > > > ni'n defnyddio "trosedd" yn hytrach na "troseddu".
> > >
> > > O'n i am nodi mai 'Trosedd a Chosb' oedd pwnc wnes i astudio
> > > nghwersi Hanes TGAU. Nid 'Troseddau a Chosbau' na ychwaith 'Troseddu a
> > > Chosbi'. Dwi' ddim cweit yn deall y rhesymeg dros ddefnyddio'r ferf.
> > >
>
|