Weithiau mae'n rhaid symud efo'r lli, David.
Google - "Troseddu a chosbi" - 1
"Troseddau a chosbau" - 14
"Trosedd a chosb" - 297.
(ac mae dadl Delyth yn un dda iawn, mae'n rhaid deud)
----- Original Message -----
From: "David Bullock" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, February 25, 2004 11:47 AM
Subject: Re: crime reduction
> Ystyr 'trosedd a chosb' o'i droi i'r Saesneg yw 'a crime and a
punishment'.
> Mae'n debyg bod y cwrs hanes am ichi astudio mwy nag un trosedd a mwy nag
un
> gosb, neu byddai'r cwrs drosodd mewn hanner gwers! Un ffordd o fynegi
hynny
> yw dweud 'Troseddau a chosbau' ac un arall yw 'Troseddu a chosbi'.
>
> Mae'n drist - ond yn wir - nad yw'r pethau ryn ni'n eu hastudio at TGAU
> (neu'n eu darllen mewn cyhoeddiadau swmpus) ddim bob amser yn ddibynadwy.
>
> Mae angen gofal wrth apelio at "awdurdod" rhyw ddatganiad dim ond ar y
sail
> ein bod wedi gweld y datganiad hwnnw mewn print - meddyliwch am stwff Iolo
> Morganwg er enghraifft. Faint o awdurdod sydd i waith un dyn bach yn
> gweithio ar ei ben ei hun, dim ond am mai fe yw'r unig un, neu'r un cyntaf
> beth bynnag, i gyhoeddi rhywbeth? Mae'r hanesydd yn deall bod rhaid i
> ffynonellau gael eu pwyso a'u mesur yn ofalus iawn cyn iddyn nhw ennyn
digon
> o goel i gael eu disgrifio fel 'awdurdod'.
>
>
>
> ----- Original Message -----
> From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
> To: "David Bullock" <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, February 25, 2004 11:24 AM
> Subject: Re: crime reduction
>
>
> > > Meddai Tegwen: "...mae defnyddio 'lleihau' (neu 'ostwng') o flaen
> berfenw yn swnio'n chwithig - dwi'n teimlo bod angen dweud rhywbeth fel
> 'gostwng lefel troseddu"
> > >
> > > Mae'n ddrwg gen i fod yn bedantig, ond dyna'r union reswm fyddwn
> > > ni'n defnyddio "trosedd" yn hytrach na "troseddu".
> >
> > O'n i am nodi mai 'Trosedd a Chosb' oedd pwnc wnes i astudio
> > nghwersi Hanes TGAU. Nid 'Troseddau a Chosbau' na ychwaith 'Troseddu a
> > Chosbi'. Dwi' ddim cweit yn deall y rhesymeg dros ddefnyddio'r ferf.
> >
|