Mae Bruce yn cytuno'n llwyr, a hefyd yn cytuno a'r egwyddor y soniodd Nia
amdani. Yr unig eithriadau yw'r Santes Ffraid (Llansanffraid) a'r Sant Sior
(Llansansior).
Ann
----- Original Message -----
From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, January 21, 2004 4:46 PM
Subject: Re: St Gwynno Forest
> Cysylltais â Les Davies, hen gyfaill coleg a hanesydd lleol ardal Aberdâr,
a
> chael y wybodaeth isod ganddo:
>
> 'Llanwynno' yw enw swyddogol yr Eglwys yng Nghymru ar y plwyf. Cyn ei
gywiro
> i'r sillafiad cywir hwnnw yn ystod y 1960au, 'Llanwonno' (sic) fu ar glawr
> yn
> swyddogol gan yr Eglwys. Mae'r Comisiwn Coedwigo a Chomisiwn Brehninol
> Henebion Cymru, er enghraifft, wedi arddel y sillafiad Cymraeg 'Gwynno'
ers
> blynyddoedd; ond, yn anffodus, rhaid pwyso eto ar Gyngor Rhondda Cynon Taf
i
> fabwysiadu'r fffurf Gymraeg pan ddaw'r angen i adnewyddu arwyddion ffyrdd
y
> mannau neilltuol a enwyd.
>
> Fel 'Llanwonno/Llanwynno' y cyfeirir at y plwyf yng nghofnodion swyddogol
yr
> Eglwys Anglicanaidd a gweinyddiad lleol fel ei gilydd. Dyna a arddelwyd
> hefyd gan
> lywodraeth leol o'r 1850au ymlaen, ond cyfeirio at hyd a lled y plwyf
> canoloesol oedd y cofnodion neu'r sefydliadau hyn, ac nid at yr eglwys.
Wrth
> gyfeirio at helaethrwydd y plwyf cyfan y defnyddiwyd yr enw 'Llanwynno' ym
> mhennill cyntaf y gân 'Koed Glyn Kynon' (sy'n dyddio o tua diwedd y 16G)
> hefyd.
>
> Hyd y gwelir, gwnaed gwahaniaeth cyson gan yr hen drigolion wrth gyfeirio
at
> y
> plwyf (Llanwynno) ar y naill law a'r gysegrfan ar y llaw arall. Gelwid yr
> olaf, gan amlaf, yn 'Eglwys Wynno' (neu 'Eglwyswynno' weithiau). Gwelir yr
> arfer yn y pennill a ddyfynwyd gan un o gyfranwyr welsh-termau-cymraeg
("Hen
> Eglwys Wynno hyglod..."). Byddai Glanffrwd bob amser yn gwahaniaethu
rhwng
> y plwyf (Llanwynno) a'r 'ecclesia' ei hun (Eglwys Wynno).
>
> "St. Gwynno Forest": nid fforest hynafol mo'r goedwig binwydd helaeth a
> elwir yn ôl yr enw cyntaf. Rhywbeth sy'n perthyn yn llwyr i ganol yr 20G
yw.
> Enw-gwneud diweddar yw "St Gwynno Forest" ac felly; pe bawn i'n dewis
> enw-gwneud Cymraeg i gyfateb yn swyddogol iddo, 'Fforest Wynno' fyddai
hwnnw
> oherwydd: (i) mae'n ffitio patrwm yr enwau Cymraeg cynhenid sy'n cyfeirio
at
> y sant, a (ii) am ei fod yn cyfateb rhywfaint hefyd i batrwm ehangach yr
> ardal (megis gyda'r ffermydd lleol Fforest Isaf/Fforest Uchaf, a
> chyfeiriadau (teirgwaith) yn y gân a grybwyllwyd at "...fforest koed glyn
> kynon". Ar y llaw arall, mae "Coed Gwynno" yn swnio'n naturiol a gweddus
> hefyd.
>
> Diolch i Les am ei sylwadau!
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message -----
> From: "Roberts, Nia" <[log in to unmask]>
> To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
> Sent: Tuesday, January 20, 2004 12:51 PM
> Subject: Re: St Gwynno Forest
>
>
> Dw i'n cofio cael fy nysgu flynyddoedd yn ôl mai defnyddio enw'r
sant/santes
> yn unig gyda'r gair eglwys fyddai'n arferol h.y. os yw'r sant yn perthyn
i'r
> cyfnod Celtaidd/cyn-Sacsonaidd, felly byddai Eglwys Wynno yn swnio'n iawn
i
> fi a Choed(wig) Wynno efallai.
> Nia
>
> > ----------
> > From: Sian Roberts[SMTP:[log in to unmask]]
> > Reply To: Discussion of Welsh language technical terminology and
> > vocabulary
> > Sent: 20 January 2004 12:17
> > To: [log in to unmask]
> > Subject: Re: St Gwynno Forest
> >
> > Newydd ffeindio gwefan hynod ddiddorol:
> >
http://www.estelnet.com/catalunyacymru/catala/sion_prys_016_llanwynno_01.h
> > tm
> >
> > sy'n cyfeirio at yr eglwys fel "Eglwys Wynno" ac yn dyfynnu:
> >
> > Hen Eglwys Wynno hyglod, - a godwyd
> > I gadw i'r Duwdod
> > Wasanaeth melys hynod,
> > A llawr glan allor Ei glod.
> >
>
>
> ******************************************************************
>
> This email and any files transmitted with it are confidential
> and intended solely for the use of the individual or entity to
> whom they are addressed. If you have received this email in error
> please notify the administrator on the following address:
> [log in to unmask]
>
>
> Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn
> gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd
> hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy
> gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:
> [log in to unmask]
>
> *******************************************************************
>
>
> Message has been scanned by Webshield
>
>
>
>
Message has been scanned by Webshield
|