> Dyma benawdau sy'n ymddangos mewn seminar ar Hygyrchedd a
> Safonau'r We. Does gen i ddim esboniadau yn anffodus.
>
> Cascading Stylesheets
Yr ystyr yw fod y stylesheet yn disgrifio pa arddull i'w ddefnyddio ar
gyfer pob elfen o fewn gwefan. Felly mae'r tudalennau yn gallu dweud
"dyma'r prif deitl' a mae'r arddull yn dweud sut mae dangos pob prif
deitl.
Mae rhai wedi bod yn defnyddio 'llen / llenni arddull'. Mae'r
dechnoleg yn gadael nifer o lenni arddull i'w cyfuno ar y dudalen sy'n
esbonio'r 'cascading' - dwi wedi gweld 'rhaeadrog' am hyn.
Felly 'llenni arddull rhaeadrog'?
> Structural markup
Yn syml - cofnodi strwythur dogfen. Defnyddir 'iaith nodi' neu 'iaith
cofnodi' i son am 'markup language'. Fasen i yn dweud
"Nodi strwythurol".
> Longdesc
Priodoledd o fewn iaith HTML/XHTML er mwyn rhoi disgrifiad testunnol
(hir) ar gyfer graffeg sydd yn cyfleu gwybodaeth gymleth.
'Sdim angen ei gyfieithu.
|