> Os gwelwch yn dda – ydyw hi’n dderbyniol defnyddio 'plis' er mwyn arbed
> gofod - e.e. mewn cyfarwyddyd ar y sgrin i ddefnyddwyr peiriannau ATM neu
> feddalwedd cyfrifiadurol?
Dwi'n gollwng 'please' yn y rhai fwyaf o lefydd. Dwi' ddim yn gweld y
pwynt os mai gorchymyn sydd dan sylw.
Mae yna rai llefydd addas e.e. "A wnewch chi roi eich barn am ein
gwefan os gwelwch yn dda?". Does dim rhaid gwneud hynny er mwyn
defnyddio'r wefan ond mae'r cynnig yno.
Yn y byd go iawn, defnyddir adferf 'Please' fel cynnig nid
gorchymyn. Fe all rhiant ofyn "Wnei di dacluso dy stafell plis" ac
aros misoedd; yna dweud "Mae rhaid i ti dacluso dy stafell neu cei di
ddim fynd allan fory" er mwyn cael y canlyniad angenrheidiol.
Efallai fod pobl (a phlant) yn fwy tebygol o ufuddhau os yw'r cynnig
yn gwrtais ond a yw'r un peth yn wir am gyfrifiadur? Wedi'r cyfan, y
defnyddiwr sydd wedi penderfynu defnyddio'r cyfrifiadur i wneud
gorchwyl o'i dewis e.e. mewngofnodi neu i wneud archwiliad.
Yn y rhan fwyaf o rhyngweithiadau pobl gyda cyfrifiaduron mae'n
orfodol i 'wneud rhywbeth' neu i fwydo gwybodaeth i fewn neu fydd dim
byd yn digwydd. Ac os nad yw'n eich plesio i deipio gwybodaeth i fewn,
ewch chi ddim yn bell..
|