Dau bwynt sydd yma, mi gredaf.
1) Fel mater tystiolaethol, os daw hi'n ddadly fe fydd llys barn yn gofyn
beth yw'r ffurf a ddefnyddir gan y corff dan sylw, yn enwedig os yw hwnnw yn
gorff swyddogol.
2) Erbyn hyn, mae ffurfiau Cymraeg ar enwau llu o Ddeddfau i'w cael yn
is-ddeddfwriaeth y Cynulliad Cenedlaethol. Mae a 122 (1) Deddf Llywodraeth
Cymru 1998 yn darparu fel hyn: 'The English and Welsh texts of any
subordinate legislation made by the Assembly which is in both English and
Welsh when made shall be treated for all purposes as being of equal
standing.'
Hwyl a fflag,
Tim
-----Original Message-----
From: David Bullock [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 08 December 2003 14:15
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Deddfau
Cofiwch mai Saesneg yw iaith Senedd san Steffan, sy'n golygu mai dim ond y
teitl Saesneg sy'n mynd i fod yn "swyddogol" beth bynnag.
Mater o hwylustod i ddarllenwyr Cymraeg yw rhoi teitl Cymraeg ar ddeddfau
Senedd Lloegr (neu ddeddfau senedd unrhyw wlad arall o ran hynny).
Os ych chi'n meddwl bod ''lletya" yn well dewis na "byrddio", yr unig beth a
allai'ch atal rhag ei ddefnyddio, yn fy marn i, yw os ych chi'n gweld bod
pobl eisoes yn defnyddio fersiwn arall a'ch bod yn awyddus i fod yn gyson â
nhw.
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: "David Bullock" <[log in to unmask]>
Sent: Monday, December 08, 2003 1:52 PM
Subject: Re: Deddfau
Ond nid yw hyn yn ymddangos yn enw uwchben cyfieithiad o'r ddeddfwriaeth ei
hun ('does dim un ar y we o leiaf - cyhoeddwyd ym 1963 ymhell cyn bod enwau
swyddogol Cymraeg i'r fath ddeddfwriaeth)), ond mewn rhestr o ba
ddeddfwriaeth sy'n ymdrin a pha materion, a chymeraf bod rhywun wedi
cyfieithu'r rhestr, yn hytrach na mynd i chwilio am enw swyddogol.
Ar y llaw, arall, ar ol edrych yng Ngeiriadur y Brifysgol, *gellir*
defnyddio "byrddio" i olygu "lletya, ac felly mi wna i ei ddefnddio - dan
brotest - gan ddal i deimlo bod "lletya"'n well.
Ann
"----- Original Message -----
From: "Saunders, Tim" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, December 08, 2003 1:15 PM
Subject: Re: Deddfau
> Digon teg cyfeirio at 'letya' yng nghyffredinol (dyna sydd dan sylw,
wedi'r
> cyfan), ond lle bo ffurf yn cael ei harfer yn swyddogol - yn enwedig mewn
> deddfwriaeth - rhaid glynu at honno (wedi'i glosio, os oes angen er
> eglurder).
>
> Cynllun carthffosiaeth ... maes sy'n llawn o ymadroddion ceginaidd eu
naws
> ... nutrients ... raw sewage ... (h.y. mewn gwrthgyferbyniad â lightly
> fricasséd sewage)
>
> Tim
>
>
> -----Original Message-----
> From: Ann Corkett [mailto:[log in to unmask]]
> Sent: 08 December 2003 13:08
> To: [log in to unmask]
> Subject: Deddfau
>
>
> Dau ddarn o ddeddfwraeth ni allaf wled cyfeiriad atynt yng Ngeiriadur
Newydd
> y Gyfraith:
>
> Control of Sex Establishments
> Animal Boarding Establishment Act 1963
>
> 'Rwyf wedi dod ar draws sawl cyfeiriad at Reoli Sefydliadau Rhyw ar y we,
> ond yr unig gyfeiriad y gallaf ddod o hyd iddo mewn perthynas a'r ail yw
> "Deddf Sefydliadau Byrddio Anifeiliad 1963", gan neb llai na HMSO.
Gadawaf
> unrhyw sylwadau i rywun arall, ond byddaf innau'n defnyddio "Lletya"!
>
> ON. Oes 'na *neb* sydd hyd yn oed yn medru egluro trefn "requisitioning a
> sewerage scheme" imi? Mae'n ddrwg gen i godi cymaint o bynciau annymunol.
>
> Ann
>
>
>
> Message has been scanned by Webshield
>
>
> Message has been scanned by Webshield
>
>
>
Message has been scanned by Webshield
|