Diolch yn fawr i bawb - Lletya amdani 'te.
Ann
----- Original Message -----
From: "David Bullock" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, December 08, 2003 2:14 PM
Subject: Re: Deddfau
> Cofiwch mai Saesneg yw iaith Senedd san Steffan, sy'n golygu mai dim ond y
> teitl Saesneg sy'n mynd i fod yn "swyddogol" beth bynnag.
>
> Mater o hwylustod i ddarllenwyr Cymraeg yw rhoi teitl Cymraeg ar ddeddfau
> Senedd Lloegr (neu ddeddfau senedd unrhyw wlad arall o ran hynny).
>
> Os ych chi'n meddwl bod ''lletya" yn well dewis na "byrddio", yr unig beth
a
> allai'ch atal rhag ei ddefnyddio, yn fy marn i, yw os ych chi'n gweld bod
> pobl eisoes yn defnyddio fersiwn arall a'ch bod yn awyddus i fod yn gyson
â
> nhw.
> ----- Original Message -----
> From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
> To: "David Bullock" <[log in to unmask]>
> Sent: Monday, December 08, 2003 1:52 PM
> Subject: Re: Deddfau
>
>
> Ond nid yw hyn yn ymddangos yn enw uwchben cyfieithiad o'r ddeddfwriaeth
ei
> hun ('does dim un ar y we o leiaf - cyhoeddwyd ym 1963 ymhell cyn bod
enwau
> swyddogol Cymraeg i'r fath ddeddfwriaeth)), ond mewn rhestr o ba
> ddeddfwriaeth sy'n ymdrin a pha materion, a chymeraf bod rhywun wedi
> cyfieithu'r rhestr, yn hytrach na mynd i chwilio am enw swyddogol.
>
> Ar y llaw, arall, ar ol edrych yng Ngeiriadur y Brifysgol, *gellir*
> defnyddio "byrddio" i olygu "lletya, ac felly mi wna i ei ddefnddio - dan
> brotest - gan ddal i deimlo bod "lletya"'n well.
>
> Ann
> "----- Original Message -----
> From: "Saunders, Tim" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Monday, December 08, 2003 1:15 PM
> Subject: Re: Deddfau
>
>
> > Digon teg cyfeirio at 'letya' yng nghyffredinol (dyna sydd dan sylw,
> wedi'r
> > cyfan), ond lle bo ffurf yn cael ei harfer yn swyddogol - yn enwedig
mewn
> > deddfwriaeth - rhaid glynu at honno (wedi'i glosio, os oes angen er
> > eglurder).
> >
> > Cynllun carthffosiaeth ... maes sy'n llawn o ymadroddion ceginaidd eu
> naws
> > ... nutrients ... raw sewage ... (h.y. mewn gwrthgyferbyniad â lightly
> > fricasséd sewage)
> >
> > Tim
> >
> >
> > -----Original Message-----
> > From: Ann Corkett [mailto:[log in to unmask]]
> > Sent: 08 December 2003 13:08
> > To: [log in to unmask]
> > Subject: Deddfau
> >
> >
> > Dau ddarn o ddeddfwraeth ni allaf wled cyfeiriad atynt yng Ngeiriadur
> Newydd
> > y Gyfraith:
> >
> > Control of Sex Establishments
> > Animal Boarding Establishment Act 1963
> >
> > 'Rwyf wedi dod ar draws sawl cyfeiriad at Reoli Sefydliadau Rhyw ar y
we,
> > ond yr unig gyfeiriad y gallaf ddod o hyd iddo mewn perthynas a'r ail yw
> > "Deddf Sefydliadau Byrddio Anifeiliad 1963", gan neb llai na HMSO.
> Gadawaf
> > unrhyw sylwadau i rywun arall, ond byddaf innau'n defnyddio "Lletya"!
> >
> > ON. Oes 'na *neb* sydd hyd yn oed yn medru egluro trefn "requisitioning
a
> > sewerage scheme" imi? Mae'n ddrwg gen i godi cymaint o bynciau
annymunol.
> >
> > Ann
> >
> >
> >
> > Message has been scanned by Webshield
> >
> >
> > Message has been scanned by Webshield
> >
> >
> >
>
>
>
> Message has been scanned by Webshield
>
>
> Message has been scanned by Webshield
>
>
>
Message has been scanned by Webshield
|