Ond nid yw hyn yn ymddangos yn enw uwchben cyfieithiad o'r ddeddfwriaeth ei
hun ('does dim un ar y we o leiaf - cyhoeddwyd ym 1963 ymhell cyn bod enwau
swyddogol Cymraeg i'r fath ddeddfwriaeth)), ond mewn rhestr o ba
ddeddfwriaeth sy'n ymdrin a pha materion, a chymeraf bod rhywun wedi
cyfieithu'r rhestr, yn hytrach na mynd i chwilio am enw swyddogol.
Ar y llaw, arall, ar ol edrych yng Ngeiriadur y Brifysgol, *gellir*
defnyddio "byrddio" i olygu "lletya, ac felly mi wna i ei ddefnddio - dan
brotest - gan ddal i deimlo bod "lletya"'n well.
Ann
"----- Original Message -----
From: "Saunders, Tim" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, December 08, 2003 1:15 PM
Subject: Re: Deddfau
> Digon teg cyfeirio at 'letya' yng nghyffredinol (dyna sydd dan sylw,
wedi'r
> cyfan), ond lle bo ffurf yn cael ei harfer yn swyddogol - yn enwedig mewn
> deddfwriaeth - rhaid glynu at honno (wedi'i glosio, os oes angen er
> eglurder).
>
> Cynllun carthffosiaeth ... maes sy'n llawn o ymadroddion ceginaidd eu
naws
> ... nutrients ... raw sewage ... (h.y. mewn gwrthgyferbyniad â lightly
> fricasséd sewage)
>
> Tim
>
>
> -----Original Message-----
> From: Ann Corkett [mailto:[log in to unmask]]
> Sent: 08 December 2003 13:08
> To: [log in to unmask]
> Subject: Deddfau
>
>
> Dau ddarn o ddeddfwraeth ni allaf wled cyfeiriad atynt yng Ngeiriadur
Newydd
> y Gyfraith:
>
> Control of Sex Establishments
> Animal Boarding Establishment Act 1963
>
> 'Rwyf wedi dod ar draws sawl cyfeiriad at Reoli Sefydliadau Rhyw ar y we,
> ond yr unig gyfeiriad y gallaf ddod o hyd iddo mewn perthynas a'r ail yw
> "Deddf Sefydliadau Byrddio Anifeiliad 1963", gan neb llai na HMSO.
Gadawaf
> unrhyw sylwadau i rywun arall, ond byddaf innau'n defnyddio "Lletya"!
>
> ON. Oes 'na *neb* sydd hyd yn oed yn medru egluro trefn "requisitioning a
> sewerage scheme" imi? Mae'n ddrwg gen i godi cymaint o bynciau annymunol.
>
> Ann
>
>
>
> Message has been scanned by Webshield
>
>
> Message has been scanned by Webshield
>
>
>
Message has been scanned by Webshield
|