Rwy innau'n cofio mam yn defnyddio'r gair 'glatsh' am fara neu gacen a
oedd heb goginio'n iawn yn y canol.
Yn y cyd-destun yma ydi 'llaith' yn gwneud y tro, ac yn swnio'n fwy
deniadol?
Ond wedyn, i'r rhai sy'n cofio chwedl Llyn y Fan Fach, a'r ferch honno
oedd yn mynnu bod y bara wedi'i goginio'n berffaith, beth ddywedodd hi
oedd 'cras dy fara, nid hawdd ei fwyta', a wedyn 'llaith dy fara, nid
hawdd ei fwyta'...
Efallai fod cacen laith yn fwy blasus na bara llaith?
Delyth
Ysgrifennodd Sian Roberts:
> Rwy eisiau dweud bod cacen yn "moist". Unrhyw syniadau?
> Rwy'n cofio mam-gu'n dweud bod cacen yn "glatsh" ond rwy'n credu bod
> hynny'n fwy na moist - h.y. ei bod heb goginio'n iawn.
>
> Diolch ymlaen llaw
> Siān
--
D.Prys [log in to unmask]
D.Prys [log in to unmask]
|