Rwy innau'n cofio mam yn defnyddio'r gair 'glatsh' am fara neu gacen a oedd heb goginio'n iawn yn y canol. Yn y cyd-destun yma ydi 'llaith' yn gwneud y tro, ac yn swnio'n fwy deniadol? Ond wedyn, i'r rhai sy'n cofio chwedl Llyn y Fan Fach, a'r ferch honno oedd yn mynnu bod y bara wedi'i goginio'n berffaith, beth ddywedodd hi oedd 'cras dy fara, nid hawdd ei fwyta', a wedyn 'llaith dy fara, nid hawdd ei fwyta'... Efallai fod cacen laith yn fwy blasus na bara llaith? Delyth Ysgrifennodd Sian Roberts: > Rwy eisiau dweud bod cacen yn "moist". Unrhyw syniadau? > Rwy'n cofio mam-gu'n dweud bod cacen yn "glatsh" ond rwy'n credu bod > hynny'n fwy na moist - h.y. ei bod heb goginio'n iawn. > > Diolch ymlaen llaw > Siān -- D.Prys [log in to unmask] D.Prys [log in to unmask]