Baswn yn tybio mai eu dadl fyddai nad ar yr 'erch' y mae'r acen. Mae
'...llannerchrugog" yn cael ei ynganu fel petai'n 'llannerch rugog". Mae'r
Gazetteer hefyd yn rhoi dwy 'n' yn Llannerchfydaf" a "Llannerchrochwel", am
yr un rheswm mi dybiwn, er na chlywais erioed mo'r rheiny'n cael eu hynganu.
Rwy'n cofio darllen dadl rhwng Bedwyr Lewis Jones ynghylch sillafiad
"Llannerch-y-medd", a Bedwyr yn cyfiawnhau'r ddwy 'n' yn enw'r lle hwnnw.
Ond mi wnaeth awduron y Gazetteer bethau'n haws inni gyda hwnnw, trwy roi'r
cyplysnodau yn y gair!
----- Original Message -----
From: "John D Williams" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, November 07, 2003 2:38 PM
Subject: Pentre'r Rhos
Un n sydd yn llan, ond dyblir yr n ar ôl llafariaid byrion mewn geiriau
unsillaf pan ychwanegir sillaf, felly, llannerch, am mai ar ôl yr acen y
ceir yr n ddwbl.
Yn Rhosllanerchrugog mae'r acen oedd gynt ar yr n yn llannerch wedi
symud, ar yr u y mae bellach, felly does dim angen am yr ail n.
Os gwyddoch chi'n wahanol Glenys, anfonwch air yn ôl. Does gen i ddim
copi o waith y Bwrdd Gwybodaeth Celtaidd yma.
Cofion.
John.
|