Brithgof gyda fi o helbul debyg yn yr un sir parthed Dole/Dolau.
Tim
-----Original Message-----
From: Ann Corkett [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 10 November 2003 09:41
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Pentre'r Rhos
Mae achos Llan-non wedi bod yn llusgo ymlaen ers blynyddoedd. Cofiaf Glerc
a Chadeirydd y Cyngor Cymuned yn dod i bledio achos Llanon a^ Phrif
Weithredwr Cyngor Dosbarth Ceredigion (a finnau'r Gynorthwy-ydd Personol
iddo bryd hynny) dros ugain mlynedd yn ol!
Ann
----- Original Message -----
From: "Glenys M Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, November 10, 2003 9:15 AM
Subject: Re: Pentre'r Rhos
> Mi wyddom pa mor sensitif yw pobl i unrhyw newid yn sillafiad enw eu tref
> neu bentref (bu achos yn rhywle yng Ngheredigion yn ddiweddar -
Llan-non? -
> pan benderfynodd yr awdurdodau ddilyn sillafiad y Gazetteer a chodi storm
o
> brotest yn lleol). Tybed ai ofn cythruddo pobl oedd gwir reswm y pwyllgor
> dros beidio â mynnu rhoi Caer-dydd a Llan-rwst etc. yn y rhestr, gan eu
bod
> nhw'n enwau mor gyfarwydd?
> ----- Original Message -----
> From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Saturday, November 08, 2003 1:54 PM
> Subject: Re: Pentre'r Rhos
>
>
> > Er 'mod i'n cytuno'n llwyr a^ Glenys ei bod hi'n well i ni lynu wrth y
> > Gazetteer fel 'beibl', mae'n werth nodi nad yw'r hyn a ddywedwyd yn
> > Rhagymadrodd Cymraeg y Gazetteer ddim yn cyfateb yn union, am ryw reswm,
> i'r
> > hyn gewch chi yn yr Introduction Saesneg iddo.
> >
> > Yn y Rhagymadrodd (td. xiv) dywedir: 'Dyma'r rheolau cyffredinol a
> > fabwysiadwyd gan y Pwyllgor, ond ceir hefyd nifer o eithriadau: ...' Fe
> > restrir chwe rheol, ac o dan dair ohonynt fe nodir eithriad neu amrywiad
> ar
> > y rheol.
> >
> > O dan reol 1 ceir : 'Enghraifft o eithriad amlwg: Caerdydd.
> > O dan reol 2, nodir amrywiad ar y rheol, sef Aberda^r.
> > O dan reol 3 ceir : 'Enghraifft o eithriad amlwg: Coed-duon.
> >
> > Ar y llaw arall, yn yr Introduction (td xxxi), ar o^l trafod 'Stress' yn
> fyr
> > iawn, ceir y gosodiad amwys braidd 'Some names are so well known that it
> is
> > not considered necessary to indicate the stress by inserting hyphens
(e.g.
> > Caerdydd, Pontypridd, Llanrwst).'
> >
> > Yr hyn sy'n syndod efallai yw bod cynifer o enwau lleoedd yng Nghymru yn
> > mynd yn groes i arfer geiriau cyffredin yn Gymraeg o fod a^'u hacen ar y
> > goben. Ac fel y gw^yr unrhyw un sydd wedi ymwneud a^ cheisio penderfynu
> lle
> > mae cyplysnod i fod (e.e. 'cyd-weld' ond 'anghydweld', 'rhag-weld' neu
> > 'rhagweld', 'ail-wneud' neu 'ailwneud'), dyw hi ddim bob amser yn hawdd
> > llunio rheol sy'n mynd i blesio pawb.
> >
> > Wedi dweud hynny, petaem yn hepgor y cyplysnodau, pa ganllaw fyddai
gennym
> > ynghylch ynganu enw pentref 'Talachddu', sydd ychydig oddi ar yr A470 ym
> > Mrycheiniog? Y Gazeteer yw'r unig ganllaw awdurdodol i'r ynganiad cywir,
> sef
> > 'Talach-ddu' ...
> >
> > Berwyn
> >
>
>
> Message has been scanned by Webshield
>
>
>
Message has been scanned by Webshield
|