Ma' peryg , o ddefnyddio "Ciper" yn y cyfieithiad megis yn "enllyn caws
cipar" , y gallai gael ei gamddeall fel "gamekeeper" - ac y byddai yn
cyfleu rhywbeth i neud a "game" yn hytach na gyda penwaig neu 'sgadan.
Rhaid i mi ddeud mai o weld y gair ciper ar ei ben ei hun, am "gamekeeper"
fyddwn i yn feddwl gyntaf yn hytrach na'r pysgodyn.
O'i ddefnyddio gyda ^a - i roi "chipar" tydio ddim yn swnio fel
"gamekeeper" wrth gwrs!
'Sgadan neu benwaig ydi "herring" - ond dwi'n meddwl mai 'sgadan neu
benwaig cochion ydi kipper h.y. fod y "coch" yn cyfleu y mygu sy'n digwydd i
wneud yr "herring" yn "kippers .
Dwynwen
----- Original Message -----
From: Saunders, Tim <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, October 16, 2003 3:53 PM
Subject: Re: Kipper Rarebit
Hmm ...
Enllyn caws cipar
Caws pôb â chipar
Cipar â chaws pôb
... dipyn bach yn fwy crentshlyd, sbo!
-----Original Message-----
From: John D Williams
[mailto:[log in to unmask]]
Sent: 16 October 2003 15:40
To: [log in to unmask]
Subject: Kipper Rarebit
Enllyn caws ciper
Caws pôb â chiper
Ciper â chaws pôb
|