Dwi'n dal i fynd hefo'r sgwrs yma am ei bod hi'n bleser pur cael defnyddio
geiria drwg heb gael drwg am neud hynny - fel y bydda i gin Gyngor Caerdydd
a British Airways. A heb anghofio'r adeg pan gafodd Ann a Bruce a fi sgwrs
hirfaith am cunnilingus aeth ymlaen am rai diwrnodiau. Eniwe. Diolch am y
cynigion - dwi'n cloffi rhwng 'coc oen' a 'cachwr' ar hyn o bryd -
cyfieithiad ydi hwn o'r pwt o sgwrs Gymraeg sydd heb fod yn sgript Henry IV
i Shakespeare - rhywun yn Efrog Newydd sydd wedi sgwennu'r sgwrs goll ac
'asshole' mae o wedi'i iwsio felly rhaid plygu i'r drefn mwn er na dwi ddim
yn siwr y byddai Glyndwr wedi deud y fath beth yn llys rhywun arall - ond
ella basa fo wir! Mae'r un person wedi cael cyfieithiad o'r sgwrs o un o'r
gwefanna cyfieithu na, mi anfonodd hi ata i a roeddwn i'n glana chwerthin
ac yn methu gneud na rhych na gwellt ohoni, dyna pam dwi'n ei chyfieithu
hi, yn ogystal a'r gan ddaru o ofyn amdani yn y lle cynta. Mi anfona i'r
cyfieithiad gwefan o'r sgwrs maes o law i chi gael laff ar fora Merchar.
Diolch eto
Annes
---
Outgoing mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.509 / Virus Database: 306 - Release Date: 12/08/03
|