Beth am gweithwraig a'i phlentyn? Rydym ni'n defnyddio gweithiwr neu
weithwraig am employee bron bob tro yma
Nia
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of John D
Williams
Sent: 22 September 2003 15:01
To: [log in to unmask]
Subject: Cyflogai
Rhywbeth i chi chwarae efo fo-
Polisi 20 tudalen am hawliau i absenoldeb mamolaeth/tadolaeth/mabwysiad
yw'r broblem. Dwi wedi gorffen ei gyfieithu ond wrth ei brawf-ddarllen
yn gweld pob math o broblemau wrth geisio anelu at gysondeb.
Mae'r gair 'employee' yn codi o hyd ac o hyd, lot o weithiau wrth
gyfeirio at y ferch sy'n disgwyl.
Mae'n anodd dilyn synnwyr y peth wrth ddarllen am y cyflogai a'i
phlentyn. Ond dydy cyfeirio at ferch fel y cyflogai a'i blentyn ddim yn
helpu chwaith - hynny yw, treiglo am mai enw unigol gwrywyaidd yw
cyflogai.
Cwyd problem debyg wrth gyfeirio at gathod. Dyweder bod gan rywun gath
- enw unigol benywaidd - o'r enw Twm - hi, fo ??
Syniadau?
|