Mae right of way fel rheol yn golygu hawl tramwyo ar lwybr neu ddarn penodol
o dir. Gall yr hawl fod ynghlwm a thir cyfangos, megis hawl perchen ty i
yrru ei gar dros dir rhywun arall, neu gall fod yn hawl gan unigolyn neu
unigolion, er engraifft hawl cynulleidfa eglwys i fynd dros dir cyfagos er
mwyn cyrraedd yr adeilad.
Gellir defnyddio 'llwybr' am y tir mae'r hawl tramwy drosto ond os yw'r
cyferiad at yr hawl ac nid at y tir, hawl tramwy sy'n gywir.
Wil
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, September 04, 2003 9:48 AM
Subject: right of way
Yn Saesneg, mae "right of way" yn gallu golygu "llwybr" yn ogystal ā'r hawl
i ddefnyddio'r llwybr hwnnw:
a) The right to pass over property owned by another party.
b) The path or thoroughfare on which such passage is made.
Ydi hyn yn wir am y Gymraeg hefyd h.y. Public Rights of Way Network =
Rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus?
Cofion a diolch
Siān
|