Licis i 'rioed yr ymadrodd 'due diligence' ond os am ei gyfieithu tybed os
mai ystyr cyffredin yr ymadrodd ddylai gael ei gyfieithu yn hytrach na'r
geiriau unigol
Fy nealltwriaeth i o’r broses 'due diligence' yw archwiliad manwl a
chynhwysfawr o gwmni a’i gynnyrch, cyn mynd ymlaen â gweithred fasnachol
sylweddol e.e. prynu cwmni neu drwyddedu cynnyrch. Mae hyn yn digwydd wedi
i’r partďon eisoes benderfynu symud ymlaen ar sail ymchwiliadau
rhagarweiniol. Mae’r broses ’felly yn cynnwys archwilio gwybodaeth fyddai
fel arfer yn gyfrinachol i un neu fwy o’r cwmnďau, er mwyn gwneud yn sicr
nad oes broblemau cudd heb eu datgelu
Archwilio neu ystyried yn fanwl a gofalus iawn yw’r ‘diligence’, ’felly -
yr ystyr yw “careful attention”, ac o’r herwydd nid wyf yn
hoffi “diwydrwydd” i gynrychioli hynny. Daw’r geiriau “fitting” a “proper”
i’m meddwl pan yn ystyried “due” wrth gwrs. Os byddwn yn darllen darn
Cymraeg yn sôn am “archwiliad gwyliadwrus briodol”, “ystyriaeth wyliadwrus
briodol” neu “gwyliadwriaeth briodol” mae’n debyg y byddwn yn sylweddoli
o’r cyd-destun mae’r broses o “due diligence” y sonid amdani
|