Gall fod yn anodd dehongli clymau o eiriau fel hyn ond rwy'n eitha siw^r mai
'the makers of key decisions' yw'r ystyr yn y fan hon. Rwyf wedi mynd yn o^l
at gleient cyn hyn i ofyn sut yn union y mae dehongli clymau o'r fath (e.e.
ai key + decision makers neu key decision + makers oedd ym meddwl yr awdur)
ac wedi diawlio o gael ambell un yn ateb 'both!' ... Gall yr un math o
amwysedd godi wrth gyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg, wrth gwrs, e.e 'merch
yn gwisgo sanau a sgidiau coch' - a oedd yn sanau'n goch hefyd? Ac ar ben
hynny, ai 'coch' o ran lliw neu o ran ansawdd oedden nhw?! Neu'r ddau ...
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Friday, September 26, 2003 5:36 PM
Subject: Re: key decision makers
> > 'gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol' fyddwn i'n ei roi - neu
> > ''gwneuthurwyr y penderfyniadau allweddol' os yw hynny'n taro'n well.
Bydda
> > i'n aml yn teimlo'i bod yn well gan y Gymraeg ymadroddion pendant ...
>
> O'n i'n meddwl mai "key (decision makers)" oedd yr ystyr.
>
> Mae'n gweithio'n well mewn brawddeg, os yw hynny'n bosib..
>
> y bobl/y rhai/yr aelodau/y swyddog sy'n allweddol mewn gwneud
penderfyniadau.
>
> (neu 'i wneud penderfyniadau')
>
|