Enw'r hen ysgol gynradd oedd Ysgol Gynradd Sofrydd, ond dydw i ddim yn
siwr fy hun oa un sy'n iawn. Sofrydd yr oeddem ni'n defnyddio gartre'.
Geraint Criddle
TROSOL
(029) 2075 0760
[log in to unmask]
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Thomas, David
A
Sent: 14 August 2003 12:48
To: [log in to unmask]
Subject: Sofrydd / Swffryd
Dw'i yng nghanol creu rhestr gyflawn o enwau lleoedd ym mwrdeistref
Caerffili, gydag esboniad o darddiad yr enwau a'r cyfieithiadau.
All unrhyw un helpu gyda tharddiad yr enw Sofrydd / Swffryd, sef pentref
ar ffin bwrdeistref Caerffili a Blaenau Gwent. Does gen i ddim syniad
pendant hyd yn oed p'un yw'r Gymraeg a'r fersiwn Saesneg. Mae'n debyg
mai wedi'i enwi ar ôl fferm Swffryd yn yr ardal, ond beth yw ystyr yr
enw a pam mae'r fersiwn Saesneg yn edrych mor Gymraeg a'r llall? Yn
anffodus nid yw enw'r lle yn ymddangos yn y llyfrau enwau lleoedd sydd
gen i ar hyn o bryd.
(Gobeithiaf y caiff y neges hon ei danfon i bawb - ar ôl dros ddwy
flynedd o frwydro gyda'n hadran TG, ces i neges heddiw i ddweud bod y
rhwystrau technegol wedi eu datrys a fy mod unwaith eto yn gallu cymryd
rhan yn y sgyrsiau Termau Cymraeg yn hytrach nag ond gweld negeseuon
pawb arall ar y grwp).
David
Swyddog Polisi (Iaith Gymraeg) Policy Officer (Welsh Language)
Uned Polisi Policy Unit
Estyniad 4353 Extension 4353
Ffôn 01443 864353 Tel. 01443 864353
Ffacs 01443 864307 Fax 01443 864307
[log in to unmask]
|