Dw'i yng nghanol creu rhestr gyflawn o enwau lleoedd ym mwrdeistref
Caerffili, gydag esboniad o darddiad yr enwau a'r cyfieithiadau.
All unrhyw un helpu gyda tharddiad yr enw Sofrydd / Swffryd, sef pentref ar
ffin bwrdeistref Caerffili a Blaenau Gwent. Does gen i ddim syniad pendant
hyd yn oed p'un yw'r Gymraeg a'r fersiwn Saesneg. Mae'n debyg mai wedi'i
enwi ar ôl fferm Swffryd yn yr ardal, ond beth yw ystyr yr enw a pam mae'r
fersiwn Saesneg yn edrych mor Gymraeg a'r llall? Yn anffodus nid yw enw'r
lle yn ymddangos yn y llyfrau enwau lleoedd sydd gen i ar hyn o bryd.
(Gobeithiaf y caiff y neges hon ei danfon i bawb - ar ôl dros ddwy flynedd o
frwydro gyda'n hadran TG, ces i neges heddiw i ddweud bod y rhwystrau
technegol wedi eu datrys a fy mod unwaith eto yn gallu cymryd rhan yn y
sgyrsiau Termau Cymraeg yn hytrach nag ond gweld negeseuon pawb arall ar y
grwp).
David
Swyddog Polisi (Iaith Gymraeg) Policy Officer (Welsh Language)
Uned Polisi Policy Unit
Estyniad 4353 Extension 4353
Ffôn 01443 864353 Tel. 01443 864353
Ffacs 01443 864307 Fax 01443 864307
[log in to unmask]
|