Cyfathrebu rhwng Celloedd?
(Mae ‘signal’ cemegol yn dylanwadu ar gell yn y corff i wneud rhywbeth, a
dyma’r astudiaeth o sut yn hollol mae hyn yn digwydd. Er enghraifft mae
hormon yn cynrychioli ‘negesydd cyntaf’ sydd yn cyrraedd cell ac yn
adweithio gyda protein ar wyneb y gell. Fel canlyniad mae adwaith cemegol
arall yn digwydd yn y gell sydd yn cynnwys ail negesydd, sydd yn
trosglwyddo’r signal ymlaen (‘signal transduction’). Mae’r gell wedyn yn
gwneud rhywbeth fel canlyniad i’r neges - efallai yn anfon signal arall i
fathau eraill o gelloedd)
|