Ymddiheuriadau - doeddwn i ddim wedi gweld ail ran y neges wreiddiol cyn
anfon f'ymateb. Byddwn i'n tybio bod y dewis cyntaf yn iawn: 'cynnal a
chadw'r rhwydwaith diwifrau 24/7'. Mae 'diwifrau' o bosib yn ddewis gwell na
'di-wifr' gan fod 'di-wifr' yn awgrymu 'wireless' fel yr un a oedd gan Nain
a Taid yn y gegin ers talwm - er mai 'weiarles' yr oedden nhw'n ei ddweud!
Garmon
Garmon Davies
Ewrolingo
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Garmon Davies
Sent: 30 July 2003 10:44
To: [log in to unmask]
Subject: Re: wireless network
A yw 'rhwydwaith di-wifr' yn cyfleu'r ystyr?
Garmon
Garmon Davies
Ewrolingo
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 30 July 2003 10:14
To: [log in to unmask]
Subject: wireless network
Sôn am wasanaeth band eang:
24/7 wireless network maintenance
Mae "rhwydwaith radio" yn codi wrth fwydo'r term hwn i Google ond rwy'n
amheus o hynny.
Ai "Cynnal a chadw'r rhwydwaith diwifrau 24/7" ynteu a oes angen dweud
rhywbeth fel "cynnal a chadw rhwydwaith y gwasanaeth diwifrau 24/7"
Diolch yn fawr
Siân
|