"Ellyll erchyll" rwyf wedi'i weld mewn un stori am y troll!
----- Original Message -----
From: "Nia Llwyd" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, July 21, 2003 2:46 PM
Subject: Straeon Plant
Rwyf wrthi cyfieithu pecyn i blant 3-5 oed. Ynddo, mae sawl stori.
Tybed oes yna unrhyw un yn gwybod neu'n cofio rhai manylion o'r straeon
hyn:
Stori'r Tri Bwch Gafr (The Three Billy Goats). Mae'r stori'n sôn am y
'little Billy Goat Gruff', 'medium sized Billy Goat Gruff' a'r 'great
big Billy Goat Gruff'. Be oedd y rhain yn Gymraeg? Bwch Gafr Bach,
Canolig a Mawr/Anferthol? Hefyd, beth oedd yn cuddio o dan y bont wrth
i'r Geifr ei chroesi? (Troll sydd yn y Saesneg)
Yr ail stori yw: 'The elves and the shoemaker'. Eto, oes unrhyw un yn
cofio neu'n gwybod beth yw'r teitl Cymraeg? Dwi wedi dod ar draws "Y
Crydd a'r ddau goblyn" ond am ryw reswm tydi hwn ddim yn canu cloch.
Oes na fersiwn arall neu ai hwn ydi'r un cywir?
Diolch yn fawr i bawb ymlaen llaw am eich cymorth,
Nia
|