Diolch o galon!
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of D.Prys
Sent: 10 July 2003 12:09
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Cynhadledd Penaethiaid
'Cynhadledd Penaethiaid' sy'n gywir am mai genidol yw Penaethiaid yma,
nid ansoddeiriol. Ansoddeiriau sy'n treiglo ar ol enwau benywaidd. Jyst
i wneud pethau'n ddiddorol, roedd y genidol yn treiglo ar ol enwau
(benwyaidd a gwrywaidd) mewn Cymraeg Canol, felly 'Ty Ddewi' fel enw lle
(enw sy'n ffosil o'r Oesoedd Canol) ond ty Dewi fyddai rhywun yn ei
ddweud heddiw. O ie, ac i wneud pethau'n fwy diddorol byth, mae modd
dehongli rhai ymadroddion fel enw+ansoddair neu enw+genidol e.e. nyrs
cymuned/nyrs
gymuned(ol) - nyrs cymuned os mai nyrs sy'n perthyn i'r gymuned yw hi,
nyrs gymuned(ol) os mai teip arbennig o nyrs yw hi... Mae terfyniadau
-ol/-aidd weithiau'n help i ni weld a yw rhywbeth yn ansoddair neu
beidio (byddai 'cynhadledd benaethol' yn rhyfedd iawn!) Cymhleth? - beth
felly yw'r gwahaniaeth rhwng siop frics a siop brics?
Ateb: mae siop frics wedi'i gwneud o frics (ansoddeiriol) ond mae siop
brics yn gwerthu brics (genidol). Tydi iaith yn hwyl. Delyth
Ysgrifennodd Meleri Haf Hughes:
> Gan fod 'cynhadledd' yn fenywaidd a yw 'ar gyfer y Gynhadledd
> Benaethiaid' yn gywir ynteu 'ar gyfer y Cynhadledd Penaethiaid?'
>
> Diolch
> Meleri
--
D.Prys [log in to unmask]
D.Prys [log in to unmask]
-------------------------------------------------------------
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw atodiad iddo yn gyfrinachol ac fe'i bwriedir ar gyfer y sawl a enwir arno yn unig. Gall gynnwys gwybodaeth freintiedig. Os yw wedi eich cyrraedd trwy gamgymeriad ni ellwch ei gopio, ei ddosbarthu na'i ddangos i unrhyw un arall a dylech gysylltu â'r Cyngor ar unwaith.
Mae unrhyw gynnwys nad yw'n ymwneud â busnes swyddogol Cyngor Gwynedd yn bersonol i'r awdur ac nid yw'n awdurdodedig gan y Cyngor.
-------------------------------------------------------------
This email and any attachments are confidential and intended for the named recipient only. The content may contain privileged information. If it has reached you by mistake, you should not copy, distribute or show the content to anyone but should contact Gwynedd Council at once.
Any content that is not pertinent to Gwynedd Council business is personal to the author, and is not necessarily the view of the Council.
-------------------------------------------------------------
|