Fe allai hyn fod yn broblem, gan fod hawlfraint gan yr Hormel Foods
Corporation ar y gair 'Spam'. Ar hyn o bryd, maent yn mynd â chwmni
SpamArrest i gyfraith am dorhawlfraint, achos a gollant yn ôl pob tebyg gan
nad yw'r cwmni meddalwedd o Seattle yn ceisio gwerthu cig tun.
Mae'n ddigon teg - ac yn gyrfeithiol ddiogelach, mae'n debyg - i gadw'r
sillafiad cysefin ar gyfer cynnyrch arbennig Hormel, ond y gwrthwyneb sy'n
wir parthed 'sbam' mewn ystyr drosiadol.
Sbo.
Tim
-----Original Message-----
From: John D Williams
[mailto:[log in to unmask]]
Sent: 31 July 2003 10:02
To: [log in to unmask]
Subject: Spam
O edrych yn y Geiriadur Mawr o dan S ac wedyn o dan Ys, ychydig iawn
iawn o eriau sy'n dechrau gyda Sp. Sb fyddai'n dilyn yr afer yn Gymraeg
dwi'n credu, ond wedyn, os mai enw priod o ryw fath yw Spam, oni ddylid
ei adael fel y mae?
|