Fe fyddai hawl gyda nhw, ond peth annoeth iawn fyddai defnyddio'r hawl yn y
cyd-destun arbennig hwnnw. Ond pe bai rhywun yn mynd i brynu ymsugnydd llwch
o wneuthuriad Kirbyvac, er enghraifft, ac yn dweud "I've just bought a
Hoover", fe fyddai lle o bosib i fynnu cywiriad.
Rai blynyddoedd yn ôl, mewn drama radio am drychineb ar y môr, dywedodd un
o'r cymeriadau "The Tannoy just didn't work." Derbyniodd y BBC lythyr gan
gyfreithwyr y Tannoy Corporation yn mynnu datganiad nad oedd uchelseinyddion
y cwmni parchus hwnnw DDIM yn torri i lawr yn ddiachos!
Tim
-----Original Message-----
From: John D Williams
[mailto:[log in to unmask]]
Sent: 31 July 2003 10:44
To: [log in to unmask]
Subject: Spam
Fel y gwyddom i gyd, mae'r gair Hoover yn enw priod - yn enw brand ar
ymsugnydd llwch. Ac eto, mae 'to hoover' yn gyffredin erbyn hyn.
Dychmygwch raglen deledu - opera sebon er enghraifft, lle gwelir rhywun
yn glanhau gartref, ac yntau/hithau'n defnyddio Electrolux, ond yn
dweud: 'I've just been hoovering the lounge ...' A fyddai sail gan
gwmni Hoover i fynd â rhywun - gwneuthurwyr y rhaglen, neu'r
ysgrifenwyr sgript, i gyfraith?
|