Byddai'r ail frawddeg ipso facto yn cyfleu'r ffaith taw ymweld roedd y
siaradwr. Am y frawddeg gyntaf, yr ergyd bendant yw bod y siaradwr yn
garcharor, a'i fod wedi'i gadw yng ngharchar Caerwysg am ychydig ddyddiau yn
ystod un o'r symudiadau mynych a diangen y mae'r Gwasanaeth Carcharau yn
cymryd cymaint o ddilwir ynddyn nhw.
Tim
ON 'UP at Oxford' os sôn am y Brifysgol ydym ni. Gallai 'at Oxford' ar ei
ben ei hun awgrymu bod y siaradwr yn aros ar yr orsaf am ychydig.
-----Original Message-----
From: Berwyn Jones [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 30 July 2003 16:38
To: [log in to unmask]
Subject: Re: on / in Anglesey
Ac eto, does dim gwahaniaeth mor bendant rhwng 'I was in Exeter prison the
other day' ac 'I was at Exeter prison the other day', ond mae'n debyg y
byddai dyn yn ychwanegu rhyw sylw fel 'only visiting!' wrth gwt y gosodiad
cyntaf ...
O ran ail neges Lisa, mae'n deg dweud mai 'ym Mo^n' ac 'ar Ynys Mo^n' yw'r
ddwy ffurf fwyaf cyffredin yn Gymraeg...
Am ryw reswm, ni lwyddodd neges gynharaf gen i i gyrraedd y cylch. Dyma hi:
Rwy'n cofio i rywun so^n rywdro am y gwahaniaeth rhwng 'in' ac 'at' yn
nhermau lleoliad ac amser. 'I was in Bangor the other day' (= roeddwn i yno
am gyfnod penodol) ac 'I was at Bangor (= yn y brifysgol) when the Britannia
Bridge burnt down' (= ym Mangor yr oeddwn i gan amlaf yn ystod y cyfnod
hwnnw, ond doeddwn i ddim yno - o reidrwydd - ar hyd yr amser).
Rheol ychydig yn wahanol a geir yn llyfr Eric Partridge 'Usage and Abusage'
(td. 152). Mae'n dyfynnu geiriau Dr Pearsall Smith, awdur y llyfr 'English
Idiom',
'The general rule is that we use "in" for large cities and capitals,
"at" for smaller places.We say someone is in London, in Rome, in Paris but
at Oxford, at Rouen (but) commonly use "in" rather than "at" even for a
small place if we ourselves are there, probably because it bulks more
largely in our imagination.'
Dwi ddim yn siw^r bod hynny'n dal dw^r (mae so^n am Fangor wedi f'atgoffa
o'r Bardd Cocos!). Oes unrhyw un arall wedi clywed am reol 'anffaeledig'?
O ran 'on Anglesey' (eto!), byddai 'I was in the Isle of Man/Wight' yn
swnio'n
chwithig, ond nid felly 'Douglas/Ventnor in/on the Isle of Man/Wight is ...'
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Saunders, Tim" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, July 30, 2003 2:33 PM
Subject: Re: on / in Anglesey
> Y tebyg oedd bod dosbarth neilltuol o bobl yn meddwl am yr ynys arbennig
> honno fel dim mwy na chanolfan ar gyfer y Mediterranean Fleet. (Gyda llaw,
> sut mae gwahaniaethu'n gryno ac yn argyhoeddiadol rhwng 'navy' a
'fleet'?).
>
> Defnydd diddorol a sylwais mewn ffynonellau Americanaidd oedd 'at the
> North'/'at the South', wrth drafod yr ymrafael a arweiniodd at yr
> Anhyfrdywch Diweddar.
>
> -----Original Message-----
> From: John D Williams
> [mailto:[log in to unmask]]
> Sent: 30 July 2003 14:34
> To: [log in to unmask]
> Subject: on / in Anglesey
>
>
> Baswn i'n dweud fod at yn cael ei ddefnyddio efo enw adeilad/cwmi e.e.
> Brian works at Kellogs/ neu at the Welsh College of Music and Drama neu
> rywle. Fyddai neb yn dweud at London - ar ei ben ei hun - na fyddai?
>
|