Byddai 'peasant poet' wedi gwneud y tro'n burion ers talwm iawn, ac yn wir
fe fu eitha ffasiwn amdanyn nhw ar un adeg. Bellach, mae'r gair 'peasant'
wedi colli'i ystyr gysefin i fwyafrif y rhai sy'n siarad Saesneg, ac ni
fyddai'r ymadrodd yn addas tu allan i gyd-destun hanesyddol arbennig.
Mae 'pastoral' yn cyfeirio at y cynnwys neu'r thema yn hytrach na'r
awduraeth - yn yr un modd, nid bugail mo bob awdur bugeilgerddi yn y
Gymraeg. Rwy'n falch gweld Berwyn yn sôn am William Barnes, gwr hynod
ddiddorol sy'n cynnwys ambell i gyffyrddiad o gynghanedd yn ei gerddi (mae
un yn ei gân enwog 'Linden Lea', er enghraifft).
'Country Poet' eto yn ddigon manwl gywir ar un adeg, ond am resymau
cymdeithasol a daearyddol yn llai felly, yn enwedig gan fod nifer o bobl
sydd heb radd o ryw fath yn mynd yn llai yn feunyddiol. 'Community poet' yn
ddigon addas heddiw, ond wedithiau mae rhywun yn gorfod gadael gair neu
ymadrodd yn y gwreiddiol a rhoi glos neu esboniad (e.e. sut byddem ni'r
cyfieithu 'Lieder', 'chansons', 'canzoni', ayyb?).
Tim
-----Original Message-----
From: D.Prys [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 30 July 2003 09:18
To: [log in to unmask]
Subject: Re: bardd gwlad
Rai blynyddoedd yn ol gofynnwyd i fi am gyfieithiad Cymraeg o 'artisan
painter' ac fe awgrymais ddefnyddio 'arlunydd gwlad' gan resymu fod yr
'artisan painter' yn rhywun nad oedd wedi cael addysg gelf academaidd
ond a oedd yn gweithio fel crefftwr o arlunydd yn gwasanaethu'i
gymdeithas. Rhywbeth yn debyg yw swyddogaeth bardd gwlad - rhywun (yn
draddodiadol beth bynnag) sydd heb addysg brifysgol ond sy'n canu i
wasasnaethu ei gymdeithas ei hun.
Ond mae 'artisan poet' yn swnio braidd yn anghyfarwydd efallai. Dewis
arall fyddai 'community poet'. Rwy'n mentro anghytuno gyda Berwyn ar y
'rural' gan feddwl efallai mai 'at iws gwlad' yw grym y 'gwlad' yn yr
enw, nid 'gwledig' - y gymdeithas sy'n bwysig yn eu canu, nid cefn gwlad.
Delyth
Ysgrifennodd Berwyn Jones:
> Mae Geiriadur Prifysgol Cymru (td 258) yn rhoi 'peasant poet'. Braidd yn
> hen-ffasiwn yw hwnnw (ond mae'n dibynnu ar ba gyfnod y mae'r darn yn
> so^n amdano). Efallai y gwna^i 'rural' neu 'rustic poet' y tro. Y peth
> gorau, mae'n debyg, fyddai rhoi 'bardd gwlad' mewn print italig a'r
> bras-gyfieithiad Saesneg mewn cromfachau ar ei o^l.
>
> O ran rhywbeth sy'n cyfateb yn Lloegr, 'pastoral' poet yw disgrifiad un
> wefan o William Barnes, y bardd o Dorset a ysgrifennai yn nhafodiaith ei
> sir ac a fu'n diwtor i Thomas Hardy ac yn ddylanwad ar ei farddoniaeth .
> Mae'n debyg bod Barnes wedi dysgu Cymraeg (ymhlith nifer o ieithoedd
> eraill) ar un adeg!
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message -----
> From: Puw, John <mailto:[log in to unmask]>
> To: Berwyn Prys Jones <mailto:[log in to unmask]>
> Sent: Tuesday, July 29, 2003 6:21 PM
> Subject: Re: bardd gwlad
>
> Local Bard mae GyrA yn ei gynnig o dan Bard
>
> -----Original Message-----
> From: Alison Layland [mailto:[log in to unmask]]
> Sent: 29 July 2003 18:38
> To: [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> Subject: bardd gwlad
>
> Yn sgil y drafodaeth ddiweddar am "brifardd", tybed a oes gan
> unrhyw un gynnig ar sut i gyfleu "bardd gwlad" yn y Saesneg, plis?
>
> Diolch yn fawr
> Alison
>
>
> Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o
> angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Heddlu Gogledd Cymru.
> Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn
> gyfreithiol freintiedig.
> Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod.
> Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
> dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os
> gwelwch yn dda.
> Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant
> sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
> fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu,
> lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.
> Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.
>
>
> This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily
> the view of North Wales Police.
> The information contained in this communication is confidential. It
> may be legally privileged.
> It is int! ended onl y for the person or entity named above.
> If you have received this e-mail in error please notify originator
> and erase this e-mail from your system.
> If you are not the intended recipient or the employer or agent
> responsible for delivering it to the
> intended recipient, you are hereby notified that any use, review,
> dissemination, distribution or copying
> of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.
>
--
D.Prys [log in to unmask]
D.Prys [log in to unmask]
|