Dim ond cynnig posibiliadau roeddwn i gan fod cymaint yn dibynnu ar y
cyd-destun. Erbyn hyn, rwy'n tueddu i feddwl mai cynnig Bruce fyddai orau.
(I mi, mae 'arlunydd gwlad' yn gyfieithiad rhagorol o 'artisan artist'.)
Berwyn
----- Original Message -----
From: "D.Prys" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, July 30, 2003 9:18 AM
Subject: Re: bardd gwlad
> Rai blynyddoedd yn ol gofynnwyd i fi am gyfieithiad Cymraeg o 'artisan
> painter' ac fe awgrymais ddefnyddio 'arlunydd gwlad' gan resymu fod yr
> 'artisan painter' yn rhywun nad oedd wedi cael addysg gelf academaidd
> ond a oedd yn gweithio fel crefftwr o arlunydd yn gwasanaethu'i
> gymdeithas. Rhywbeth yn debyg yw swyddogaeth bardd gwlad - rhywun (yn
> draddodiadol beth bynnag) sydd heb addysg brifysgol ond sy'n canu i
> wasasnaethu ei gymdeithas ei hun.
> Ond mae 'artisan poet' yn swnio braidd yn anghyfarwydd efallai. Dewis
> arall fyddai 'community poet'. Rwy'n mentro anghytuno gyda Berwyn ar y
> 'rural' gan feddwl efallai mai 'at iws gwlad' yw grym y 'gwlad' yn yr
> enw, nid 'gwledig' - y gymdeithas sy'n bwysig yn eu canu, nid cefn gwlad.
> Delyth
>
> Ysgrifennodd Berwyn Jones:
> > Mae Geiriadur Prifysgol Cymru (td 258) yn rhoi 'peasant poet'. Braidd yn
> > hen-ffasiwn yw hwnnw (ond mae'n dibynnu ar ba gyfnod y mae'r darn yn
> > so^n amdano). Efallai y gwna^i 'rural' neu 'rustic poet' y tro. Y peth
> > gorau, mae'n debyg, fyddai rhoi 'bardd gwlad' mewn print italig a'r
> > bras-gyfieithiad Saesneg mewn cromfachau ar ei o^l.
> >
> > O ran rhywbeth sy'n cyfateb yn Lloegr, 'pastoral' poet yw disgrifiad un
> > wefan o William Barnes, y bardd o Dorset a ysgrifennai yn nhafodiaith ei
> > sir ac a fu'n diwtor i Thomas Hardy ac yn ddylanwad ar ei farddoniaeth .
> > Mae'n debyg bod Barnes wedi dysgu Cymraeg (ymhlith nifer o ieithoedd
> > eraill) ar un adeg!
> >
> > Berwyn
> >
> > ----- Original Message -----
> > From: Puw, John <mailto:[log in to unmask]>
> > To: Berwyn Prys Jones <mailto:[log in to unmask]>
> > Sent: Tuesday, July 29, 2003 6:21 PM
> > Subject: Re: bardd gwlad
> >
> > Local Bard mae GyrA yn ei gynnig o dan Bard
> >
> > -----Original Message-----
> > From: Alison Layland [mailto:[log in to unmask]]
> > Sent: 29 July 2003 18:38
> > To: [log in to unmask]
> > <mailto:[log in to unmask]>
> > Subject: bardd gwlad
> >
> > Yn sgil y drafodaeth ddiweddar am "brifardd", tybed a oes gan
> > unrhyw un gynnig ar sut i gyfleu "bardd gwlad" yn y Saesneg,
plis?
> >
> > Diolch yn fawr
> > Alison
> >
> >
> > Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o
> > angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Heddlu Gogledd Cymru.
> > Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn
> > gyfreithiol freintiedig.
> > Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod.
> > Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
> > dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os
> > gwelwch yn dda.
> > Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant
> > sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
> > fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu,
> > lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.
> > Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.
> >
> >
> > This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily
> > the view of North Wales Police.
> > The information contained in this communication is confidential. It
> > may be legally privileged.
> > It is int! ended onl y for the person or entity named above.
> > If you have received this e-mail in error please notify originator
> > and erase this e-mail from your system.
> > If you are not the intended recipient or the employer or agent
> > responsible for delivering it to the
> > intended recipient, you are hereby notified that any use, review,
> > dissemination, distribution or copying
> > of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.
> >
>
>
> --
> D.Prys [log in to unmask]
> D.Prys [log in to unmask]
>
>
|