Nid oes arnaf angen gwers gan TS (na neb arall) ar ddiffinio geiriau ar o^l
20 mlynedd wrthi. Gwn yn burion ystyr yr hyn a eilw ef yn "gysyniad" "riot"
ac mi wn mai "terfysg" a ddefnyddiwyd erioed ar gyfer hynny ("terfysg y
Siartiaid" ayb, i ailadrodd yr hyn a ddywedais eisoes). Nid myfi sy'n
cymylu ystyron manwl geiriau, ond y rhai (megis TS?) sy'n mynnu gwthio ystyr
newydd ar air, gan ein gorfodi i chwilio am air Saesneg yn ei le. Nis oes
dim sy'n "sigledig" yn yr hyn a ddywedais o unrhyw safbwynt. Ni dderbyniaf
wahoddiad nawddoglyd TS i ddarllen Halsbury, na'i wahoddiad i ystyried
"Iscariot" a "gwleidyddiaeth Ffrainc". Duw a w^yr beth ar y ddaear sydd a
wnelont a^'r pwnc dan sylw, a phrysuraf i sicrhau TS na ddylai wastraffu ei
amser ef yn eu hegluro gan fod gennyf amgenach pethau i'w gwneud na darllen
ei sylwadau.
Nid yw dadl D. Prys bod "brawychiaeth" yn debyg o fod yn ddiethr i
ddarllenwyr yn werth dim: gellid dweud union yr un peth am unrhyw fathiad
newydd, gan gynnwys pethau fel "gwerthuso", "strwythur", "cyfrifiannell",
"argaeledd" a sawl bathiad rhyfedd ac ofnadwy arall sydd wedi cydio er
hynny.
Ac ni chefais ateb eto i fy her: pa beth a ddywedwn am "terrorize", oni
ddywedwn "brawychu"? Ni ellir "terfysgu" rhywun heb lurgunio cystrawen y
Gymraeg ymhellach fyth. Ac os cydnabyddwn mai "brawychu" a ddywedwn, yna ni
ellir deall y gwrthwynebiad hurt i "brawych(i)aeth".
BG
|