Mae Bruce wedi tynnu fy sylw at y ffaith bod "gwyrddfan" a "gwyrddle" mewn
bod, y cyntaf yn fwy o oasis, a'r ail yn "village green" fel arfer. Felly
"gwyrddfan" amdani, gan ddefnyddio "gwyrddfannau" yn lle "greenspace" lle
mae'r cyd-destun yn gofyn am hynny, a defnyddio "glaswelltir" yn lle
"glastir" ar gyfer "grassland" i wahaniaethu'n fwy pendant.
Mae "cyfleus" yn bosibilrwydd arall ar gyfer "accessible". Gwerthfawrogir
unrhyw gynigion.
Ann
|