Fyddwn i erioed wedi dyfalu mai Paviland fyddai dan sylw o weld "Pen-y-fai"
gan fod yna le yn ymyl Pen-y-bont ar Ogwr o'r un enw. Dydw i ddim yn meddwl
bod yna enw Saesneg ar y Pen-y-fai hwnnw. Yn anffodus, am resymau trist y
mae 'r lle yn 'enwog' yn ardal Pen-y-bont.
Eirlys W
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, June 30, 2003 5:10 PM
Subject: Re: Goat's Hole Cave
> Glenys, mae 'na ogofeydd eraill ym Mhen-y-fai. Er hynny, mae
archaeolegwyr
> yn tueddu i gyfeirio at "the Paviland Cave" (h.y. the cave at Paviland
which
> produced the finds), yn hytrach na Goat's Hole Cave, felly mi *all* fod yn
> iawn i ddefnyddio "Ogof Pen-y-fai" yn y fath yna o gyd-destun. Os
dymunwch
> fod yn fwy manwl, gellir defnyddio "Ogof yr Afr" neu "Twll yr Afr".
>
> Unwaith eto, os oes 'na rywun yn berchen "Crwydro Morgannwg", cyfrol II,
> efallai bod 'na rywbeth yno.
>
> Ann
>
|