Dyna'r neges a anfonais beth amser yn ol:
Deallaf gan Gwen Rice ei bod hithau hefyd yn derbyn negeseuon yn ol gan
Antur Teifi, felly ffoniais i nhw. Mae manylion e-bost yr Antur wedi newid
yn ddiweddar, ac mae'n rhaid bod rhywun sy'n gweithio iddynt, sydd hefyd yn
aelod o'r grwp, wedi anghofio rhoi gywbod i'r grwp (a bod yr un un, neu
gydweithiwr, wedi anghofio rhoi gwybod i Gwen). Gan fod 107 o bobl yn yr
Antur ag e-bost, nid oedd yn bosibl dod o hyd i'r aelod, ond efallai byddai
Prys yn medru gweld pwy ydyw a rhoi gwybod i'r Antur (01239 710238).
'Rwyf innau hefyd yn dal i gael yr un neges bob tro 'dw i'n anfon neges at y
grwp yma, felly ffoniais Antur Teifi eto y bore 'ma a chael mai Enfys
Williams yw'r aelod a bod rhywbeth yn bod y "server" yno fel ei bod hi'n
cael anhawster derbyn unrhyw negeseuon ar hyn o bryd. Mae'n mynd i drio
"unsubscribe" a thanysgrifio eto, ond mae'n ymddangos yn debyg y bydden ni'n
dal i dderbyn y negeseuon hyn nes bod y cysylltiad wedi'i drwsio. 'Does dim
angen poeni amdanynt - dim feirws na dim - cewch eu dileu nhw.
Ann
|