Mae cwnselydd/gwasanaeth cwnsela yn cael ei ddefnyddio yn eithaf aml erbyn
hyn - e.e., yma yn y Brifysgol, ac mewn llawer cyd-destun arall. Y prif reswm
dros osgoi "cynghori/cynghorydd" yw'r dryswch a all godi rhwg swyddogaeth
cynghorwyr etholedig a hefyd gyrff sy'n rhoi cyngor (megis CAB ac ati). Dwi'n deall
yr amwysedd all godi o ran swyddogaeth cwnsler, ond mae lle i ddadlau bod mwy
o fwlch rhwng y gwaith arbennig hwnnw a swyddogaeth cwnsela. "Ymgeleddu"
fymryn yn ddieithr, efallai, i'r werin gyffredin - ond wedi dweud hynny, dwi'n gryf
o blaid "eiriol/eiriolwr" bob tro yn lle'r erchyll "adfocatiaeth"! Pwy
ddeudodd bod yn rhaid i gyfieithwyr fod yn gyson....?
|