Diolch Helen - a Gwen a John.
Gan fy mod i'n trosglwyddo neges a ddaeth o Siapan, 'roeddwn i'n amau am
funud mai arwyddion siapeneg 'roeddech chi wedi'u cael, ond naddo.
Digwyddodd hyn llynedd pan fu'n rhaid imi ail-lywtho popeth ar y
cyfrifiadur, a dyma fi wedi cael disg caled newydd yr wythnos diwethaf, ac
anghofio newid y dewis awtomatig o "Send in HTML" i "Send in Plain Text".
Gobeithio bod hyn yn well. Dyma'r neges eto:
Gan gymryd nad ydych chi'n cyfeirio at systemau fel Trados, Wordfast a Deja
Vu, holais fy ffrind John Phillips, sy'n gweithio mewn Prifysgol yn Siapan.
Dyma ei ateb:
"Wel mae gennyf "meddalwedd sy'n cyfieithu yn syth o'r Saesneg = i'r
Gymraeg" yma. Nid yw'r ansawdd yn dda iawn ond y mae'n gweithio. Am wn
i nid oes brosiect arall ar y gweill.
Mae gennyf nifer o syniadau i wella'r fy sustem i, ond dwi heb weithio
arni ers talwm rwan - bu gwaith adeiladu yma oddiar ganol mis Rhagfyr
tan yr wythnos hon fel na fedrais ddefnyddio fy swyddfa, ac heblaw hynny
dwi'n gweithio ar lyfr am y Fanaweg."
Ann
|