Faint o bobl eraill yn y grwp sy'n defnyddio Trados, tybed? Os ydych, mae'n
debyg eich bod chi'n gyfarwydd a gwefan Trados, a hefyd "Translationzone"
sy'n rhan o Trados, ond sy'n cynnwys grwp trafod hefyd. 'Rwyf newydd ddod
ar draws grwp trafod annibynnol, lle gall defnyddwyr helpu ei gilydd ag
unrhyw broblemau. Mae bron dwy fil o aelodau, ac mae'r grwp yn cael ei
redeg gan rywun o'r enw Iwan Davies, o Teeside. Gellir edrych trwy'r archif
heb ymuno. Mae ymuno yn gofyn ychydig yn rhagor o amser - ac yn golygu
rhagor o negeseuon yn cyrraedd bob dydd!
Os oes gennych ddiddordeb, ewch at [log in to unmask]
Ann
|