annes wrote:
>
> Diolch am eich help. Roeddwn i'n rhyw feddwl bod y drafodaeth yma wedi bod o'r
> blane ond yn methu cael hyd iddi. Os 'trafod' sy'n mynd a hi be am ddeud seiat
> drafod yn hytrach na sesiwn drafod - dwi byth yn hoff o sesiwn eniwe. Ofni
> roeddwn i bod gofyn cyfleu ystyr y syniad Colditzaidd 'breakout' ond os ydyn
> nhw'n seiadau llai na'r brif gynhadledd mae hynny'n o amlwg ddyliwn???
Falle taw golwg anarferol sy gen i, gan mod i'n Americanwr, ond
imi mae seiat yn cyfleu llun cyfarfod eglwysig lle roedd rhaid
i bobl gyfessu eu pechodau o flaen eu gilydd; o leiaf, dyna'r
gyd-destun y gwelais i'r gair gan amlaf.
--Mark
|