Dach chi'n holl iawn Gwen, wrth gwrs. Flynyddoedd yn ôl, dilynais gwrs
gyda'r NCTJ pan oeddwn yn newyddiadurwr, a chawsom wersi ar arddull -
sut i sgwennu gwahanol fathau o storïau newyddion/straeon nodwedd ac
ati. Yr hyn dwi'n ei gael yn hynod o ryfedd yw'r ffordd mae'r wasg
Saesneg yn hoffi bod mor amwys â phosib.
O ran diddordeb, ychydig yn ôl, roeddwn yn gwrando ar y radio ar athro o
un o brifysgolion Lloegr yn sôn am arolwg a wnaed o baburau newydd
Lloegr. Mae o gwmpas 5000 o eiriau - gwahanol - i'w cael yn y Sun a
rhwng 40,000 a 50,000 yn y Times etc, sy'n dangos meddai, ehanger
geirfa'r darllenwyr. Duw a wyr faint o eiriau sydd yn y Daily Star a'r
Sport felly - dim llawer mae hynny'n bendant. Mae'n drist bod
'darllenwyr' y papurau tabloid gwaethaf yn cael eu cadw i lawr i bob
pwrpas gan y sothach hynny.
O ran Cymraeg Clir, er bod ffordd o fynegi rhywbeth gydag ychydig iawn o
eiriau er mwyn arbed lle mewn colfon, onid yw bob amser yn well osgoi
amwysedd?
|