>Nid yw'r darn mae Ann yn yn ei gyfieithu yn gywir erbyn hyn
Er gwybodaeth, nid y darn yr oeddwn i'n ei gyfieithu oedd hwnnw - ond
diffiniad a gefais ar y we.
Yr hyn oedd gen i oedd "dim enw mwy na 50 'character' i ffeil." (a sawl peth
tebyg)
Erbyn hyn 'rwyf yn anfon y canlynol fel rhan o'r ffeil ddiwigiedig i'w
chymeradwyo (gobeithio):
"peidiwch â defnyddio enw ffeil sy'n hwy na 50 nod ('characters' - mae nodau
'n cynnwys llythrennau, rhifau, atalnodau, bylchau a.y.y.b.)"
Wel, mae'n chwyddo'r cyfrif geiriau, on'd ydy?
Ann
----- Original Message -----
From: "Neil Shadrach" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, February 07, 2003 9:52 AM
Subject: Re: characters
> Pam lai? Am eu bod nhw'n gallu golygu pethau gwahanol - yn arbennig mewn
> cyd-destun cyfrifiadurol fel yr un isod. Er enghraifft mae'r llythyren
"'a'
> gydag acen grom" ar sgrin yn gallu cyfateb i un nodyn "'a' ladin gydag
acen
> grom" neu ddau "'a' ladin" ac "acen grom" sy wedi cael eu cyfuno gan y
> meddalwedd. Nid yw'r darn mae Ann yn yn ei gyfieithu yn gywir erbyn hyn
> chwaith - mae blas yr wythdegau os nad y saithdegau arno. Nid yw nodyn
erbyn
> hyn yn cyfateb i nifer penodol o feitiau yn sicr. Mae nodyn a'r codau a
all
> ei gynrychioli yn ddau beth ar wahan.
>
> On Fri, 7 Feb 2003 08:55:55 -0000, Kenneth Owen
> <[log in to unmask]> wrote:
>
> >Ar ffurflen i fyfyrwyr yn ddiweddar fe ddefnyddiais 'llythrennau' ar
gyfer
> >'characters'. Pam lai, ynte?
> >
> >Ken Owen
> >Marian-glas
> >
> >----- Original Message -----
> >From: Ann Corkett <[log in to unmask]>
> >To: Ken Owen <[log in to unmask]>
> >Sent: 06 February 2003 18:59
> >Subject: characters
> >
> >
> >"character
> >In computer software, any symbol that requires one byte of storage. This
> >includes all the ASCII and extended ASCII characters, including the space
> >character. In character-based software, everything that appears on the
> >screen, including graphics symbols, is considered to be a character. In
> >graphics-based applications, the term character is generally reserved for
> >letters, numbers, and punctuation."
> >
> >Mae'r diffiniad yn bwysig achos mae gen i bethau fel "peidiwch â
defnyddio
> >enw ffeil sy'n hwy na 50 'character'".
> >
> >'Rwyf wedi gweld "nodau" sy'n swnio braidd yn amwys, neu mae Bruce yn
cynnig
> >"arwyddion" neu "arwyddnodau", neu 'dwi'n cael fy nhemptio, ar gyfer y
> >darllennydd cyffredin, i ddweud "llythrennau (mae hyn yn cynnwys rhifau,
> >bylchau ac atalnodau)" [a oes angen son am fylchau o gwbl yng
nghyd-destun
> >ffeiliau ar y we?]
> >
> >Unrhyw sylwadau ar arferion cyffredin?
> >
> >Diolch,
> >
> >Ann
>
|