Pam lai? Am eu bod nhw'n gallu golygu pethau gwahanol - yn arbennig mewn
cyd-destun cyfrifiadurol fel yr un isod. Er enghraifft mae'r llythyren "'a'
gydag acen grom" ar sgrin yn gallu cyfateb i un nodyn "'a' ladin gydag acen
grom" neu ddau "'a' ladin" ac "acen grom" sy wedi cael eu cyfuno gan y
meddalwedd. Nid yw'r darn mae Ann yn yn ei gyfieithu yn gywir erbyn hyn
chwaith - mae blas yr wythdegau os nad y saithdegau arno. Nid yw nodyn erbyn
hyn yn cyfateb i nifer penodol o feitiau yn sicr. Mae nodyn a'r codau a all
ei gynrychioli yn ddau beth ar wahan.
On Fri, 7 Feb 2003 08:55:55 -0000, Kenneth Owen
<[log in to unmask]> wrote:
>Ar ffurflen i fyfyrwyr yn ddiweddar fe ddefnyddiais 'llythrennau' ar gyfer
>'characters'. Pam lai, ynte?
>
>Ken Owen
>Marian-glas
>
>----- Original Message -----
>From: Ann Corkett <[log in to unmask]>
>To: Ken Owen <[log in to unmask]>
>Sent: 06 February 2003 18:59
>Subject: characters
>
>
>"character
>In computer software, any symbol that requires one byte of storage. This
>includes all the ASCII and extended ASCII characters, including the space
>character. In character-based software, everything that appears on the
>screen, including graphics symbols, is considered to be a character. In
>graphics-based applications, the term character is generally reserved for
>letters, numbers, and punctuation."
>
>Mae'r diffiniad yn bwysig achos mae gen i bethau fel "peidiwch â defnyddio
>enw ffeil sy'n hwy na 50 'character'".
>
>'Rwyf wedi gweld "nodau" sy'n swnio braidd yn amwys, neu mae Bruce yn cynnig
>"arwyddion" neu "arwyddnodau", neu 'dwi'n cael fy nhemptio, ar gyfer y
>darllennydd cyffredin, i ddweud "llythrennau (mae hyn yn cynnwys rhifau,
>bylchau ac atalnodau)" [a oes angen son am fylchau o gwbl yng nghyd-destun
>ffeiliau ar y we?]
>
>Unrhyw sylwadau ar arferion cyffredin?
>
>Diolch,
>
>Ann
|