Ysgrifennodd Ann Corkett:
>
> 'Rwyf wedi gweld "nodau" sy'n swnio braidd yn amwys, neu mae Bruce yn cynnig
> "arwyddion" neu "arwyddnodau", neu 'dwi'n cael fy nhemptio, ar gyfer y
> darllennydd cyffredin, i ddweud "llythrennau (mae hyn yn cynnwys rhifau,
> bylchau ac atalnodau)" [a oes angen son am fylchau o gwbl yng nghyd-destun
> ffeiliau ar y we?]
>
> Unrhyw sylwadau ar arferion cyffredin?
Fe drafodwyd rhai termau fel hyn yn eitha diweddar wrth ddechrau
cyfieithu GNOME. Mae yna lawer o dermau wedi ei safoni ers blynyddoedd
ond dyw hyn ddim yn meddwl fod pawb yn ei defnyddio yn gyson nac yn
hapus gyda nhw. (dim ond am fod neb wedi arfer ei gweld dwi'n credu).
Mae 'nod' wedi ei ddewis yn eitha penodol ar gyfer character gan mai
nid llythyren yw e o anghenrheidrwydd ond unrhyw symbol sydd yn cael
ei ddefnyddio mewn systemau ysgrifennedig a systemau cyfrifiadur
(e.e. y wyddor ladin neu Kanji neu symbolau masnachol). Mae yna nodau
fydd defnyddiwr cyffredin byth yn gweld hefyd (e.e ar gyfer 'diwedd
llinell' neu Tab). Mae rhaid cwmpasu rhain i gyd mewn 'character set'
Dwi'n credu fod lle i amrywio yr hyn ddefnyddir yn dibynnu ar pa mor
fanwl sydd angen bod. Yng nghyd-destun hollol dechnegol mae 'nod' yn
gwneud hi'n glir beth sy'n cael ei drafod. Ond wrth enwi ffeil neu
deipio fewn i flwch yna mae llythyren yn fwy addas ac yn haws i'w
ddeall.
--
Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>
|