Oes dau beth wedi cael eu cymysgu yn y fan hyn?
Mae gan y *Cwnsler* ddiddordeb (ar hyn o bryd, beth bynnag) mewn casglu
terminoleg - a mater iddo fe a'i Swyddfa yw hynny. At hyn yr oedd Muiris yn
cyfierio, rwy'n credu.
Ond mae gan y *Cynulliad* bwer cyfreithiol - o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru
19XX (ffaelu cofio'r dyddiad!) i wneud gorchmynion sy'n pennu ystyr geiriau
Cymraeg. At y pwer yma mae Tim yn cyfeirio rwy'n credu.
Rwy'n cofio gofyn i'r swyddog a luniodd y cymal perthnasol pa hawl oedd
ganddo fe, a pha hawl allai fod gan y Cynulliad, i ddeddfu ar ystyr
geiriau'r Gymraeg, ond esboniodd mai mater o hwylustod cyfreithiol fyddai'r
peth, i wneud gwaith cyfreithwyr, barnwyr etc yn gliriach wrth ddehongli
ystyr dogfennau.
Edrychwch ar is-ddeddfau'r Cynulliad, ac fe welwch fod adran bron bob tro
sy'n dweud beth yw ystyr benodol rhai o'r geiriau a'r ymadroddion allweddol
yn y testun, rhywbeth fel "ystyr 'cyfieithydd' ('translator') yw person sydd
wedi llwyddo yn arholiad aelodaeth sylfaenol Cymdeithas Cyfieithwyr Gwlad y
Rwla.". Bydd cymal cyfatebol yn y testun Saesneg hefyd - "'translator'
('cyfieithydd') means a person...").
Rwy'n dychymygu y byddai pob math o wrthwynebiad yn codi pe bai'r Cynulliad
yn ceisio penu ystyr geirau y tu allan i'w briod swyddogaethau (e.e.
troseddau, sy'n dod o dan Swyddfa Gartref San Steffan).
----- Original Message -----
From: "Tim Saunders" <[log in to unmask]>
To: "David Bullock" <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, January 30, 2003 10:43 AM
Subject: Re: Enhanced Disclosure
> -----Original Message-----
> From: Evans, Meinir (OPO) [mailto:[log in to unmask]]
> Sent: 30 January 2003 10:39
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Enhanced Disclosure
>
>
> Wedi holi un o'r cyfreithwyr cyfraith yn Swyddfa'r Cwnsler Cyffredinol:
>
> 1. Discovery - heb wybod beth yw'r cyd-destun, mae'n debyg mai
'darganfod',
> 'darganfyddiad', 'dod o hyd i' etc fyddai'n dod i'r meddwl.
>
> > Ond taw 'dadleniad' sy'n gywir mewn cyd-destun cyfreithiol. Ni welaf
angen
> am drosgwlyddo amwysedd yn y Saesneg i'r Gymraeg, yn enwedig pan fo'r
mater
> wedi'i drefnu'n barod.
>
> 2. O ran pwyllgor i benderfynu ar derminoleg gyfreithiol, mae'r Cwnsler
> Cyffredinol wrthi'n ymchwilio i'r mater. Ni ellir rhoi mwy o fanylion ar
> hyn o bryd.
>
> > Nyff sed ...
>
> Tim
>
> -----Original Message-----
> From: Muiris Mag Ualghairg [mailto:[log in to unmask]]
> Sent: 29 January 2003 20:33
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Enhanced Disclosure
>
>
> Meinir,
>
> Mae hyn i gyd yn ddiddorol - beth felly mae'r Cynulliad yn ei ddefnyddio
ar
> gyfer 'Discovery'?
>
> Cofiaf glywed rhywbeth am bwyllgor yn cael ei sefydlu i edrych ar
derminoleg
> y gyfraith yn y Gymraeg - o dan nawdd y Cynulliad - ydych chi'n gwybod sut
> mae pethau'n mynd?
>
> Muiris
>
>
> ---
> Outgoing mail is certified Virus Free.
> Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
> Version: 6.0.445 / Virus Database: 250 - Release Date: 21/01/03
>
> PLEASE NOTE: THE ABOVE MESSAGE WAS RECEIVED FROM THE INTERNET.
>
> On entering the GSI, this email was scanned for viruses by the Government
> Secure Intranet (GSI) virus scanning service supplied exclusively by Cable
&
> Wireless in partnership with MessageLabs.
>
> GSI users see http://www.gsi.gov.uk/main/new2002notices.htm for further
> details. In case of problems, please call your organisational IT helpdesk.
>
>
|