A-ha, newydd gael fy e-bost go iawn nol rwy'n credu.
Don i ddim yn hoffi defnyddio "dad-danysgrifio" fy hun, gan feddwl y byddai
rhyw Friws neu ei gilydd yn saethu cyhuddiad aton ni ar unwaith o greu
erthyldod arall.
Ond mae'r furf yn gwbl ddealladwy wrth gwrs... i'r dyrnaid sy'n gallu
darllen Cymraeg yn 2003 (a "dwy fil a thri" wi'n gweud - dwy ddim yn cofio
galw 1993 yn "mil naw naw tair") ac os oes angen cael un gair er mwyn
hwyluso pethau i'r boffins, wel "dad-danysgrifio" amdani!
----- Original Message -----
From: "Gwen Rice" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, January 06, 2003 11:14 AM
Subject: unsubscribe
> Mewn cyd-destun cyfrifiadurol. A oes term wedi ei fathu? Gofynnwyd i mi
> hefyd a oes term ar gael sy'n un gair yn unig.
> Diolch
> Gwen
>
>
|