Mae'n debyg bod yr arfer hyn wedi codi o'r Ddeddf Eglwysig Gymreig, a soniai
am 'the Church in Wales' yng nghyd-destun Datgysylltu. Gwelais hefyd 'the
Theosophical Society in Wales', 'the Communist Party in Wales'. Hmmm. Bydd
raid cnoi cil ar hyn.
Tim
-----Original Message-----
From: Gwen Rice [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 24 January 2003 12:38
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Y Comisiwn Archwilio yng Nghymru
Ydy hi'n hanfodol rhoi gair am 'in' yn y talfyriad, dim ond am ei fod yn y
Saesneg?
<Gwen
-----Original Message-----
From: Berwyn Jones [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 24 January 2003 12:35
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Y Comisiwn Archwilio yng Nghymru
Efallai nad yw'r sylw hwn ddim yn berthnasol yn yr union achos hwn, ond does
dim angen defnyddio acronym bob tro y bydd y Saesneg yn gwneud hynny. Gellid
dweud 'y Comisiwn' os byddai hynny'n fwy dealladwy na'r acronym.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Friday, January 24, 2003 11:44 AM
Subject: Re: Y Comisiwn Archwilio yng Nghymru
> CAyNgh fyddai'n gywir!
> Byddai talfyrru Comisiwn Archwilio, Cymru, yn haws, ond yn rhoi acronym
> anffodus.
> Mae CAyC yn anghywir, felly mae'n debyg mai CAyN yw'r unig beth posibl.
> Bruce
> 5 Heol Belmont, Bangor, Gwynedd, LL57 2HS, UK
> (01248) 371987
> [log in to unmask]
> ----- Original Message -----
> From: Rhodri Jones <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, January 23, 2003 10:43 AM
> Subject: Y Comisiwn Archwilio yng Nghymru
>
>
> > A allai ofyn eich barn am y canlynol os gwelwch yn dda.
> > Yn saesneg mae'r Audit Commission in Wales yn cael ei dalfyrru i "ACiW".
> >
> > Mae'r Cyfarwyddwr yn mynnu cael talfyriad am ein teitl Cymraeg.
> >
> > Beth sydd orau??? CAyN...CAyC...????
> >
> > A allai gael unrhyw awgrymiadau os gwelwch yn dda.
> >
> >
>
|