> rhyw Friws
Nid wyf yn orhoff o'r ymadrodd uchod na'i ddefnydd . Beth bynnag a ddywedir
tu ol i'n cefnau, i mi 'does ond *un*.
Mi wnes i son wrtho am yr ymholiad, heb ei ddangos iddo, a gwneud fy ngorau
i egluro'r cyd-destun. Awgrymodd 'datgofrestru', er y byddai'n derbyn
'datdanysgrifio' os nad yw datgofrestru'n ffitio'r ffeithiau.
Gyda llaw, "dwy fil a thri" mae Bruce yn ei ddweud hefyd.
Mae Bruce wedi dweud wrthyf fwy nag unwaith rywbeth tebyg i hyn, y caiff
pobl ddweud/ysgrifennu'r hyn licien nhw - ond allan nhw ddim disgwyl sel ei
fendith bob amser. Yr hyn mae Bruce yn medru'i wneud yn dda yw disgrifio
sut mae'r Gymraeg yn gweithio eisoes, a sut y dylid creu termau newydd sy'n
dilyn yr un ffurfiau. Byddai'n dda gen i ei gael i ysgrifennu rhyw
ganllawiau ar y pwnc.
Cofion,
Ann
----- Original Message -----
From: David Bullock <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, January 06, 2003 12:55 PM
Subject: Re: unsubscribe
> A-ha, newydd gael fy e-bost go iawn nol rwy'n credu.
>
> Don i ddim yn hoffi defnyddio "dad-danysgrifio" fy hun, gan feddwl y
byddai
> rhyw Friws neu ei gilydd yn saethu cyhuddiad aton ni ar unwaith o greu
> erthyldod arall.
>
> Ond mae'r furf yn gwbl ddealladwy wrth gwrs... i'r dyrnaid sy'n gallu
> darllen Cymraeg yn 2003 (a "dwy fil a thri" wi'n gweud - dwy ddim yn cofio
> galw 1993 yn "mil naw naw tair") ac os oes angen cael un gair er mwyn
> hwyluso pethau i'r boffins, wel "dad-danysgrifio" amdani!
>
> ----- Original Message -----
> From: "Gwen Rice" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Monday, January 06, 2003 11:14 AM
> Subject: unsubscribe
>
>
> > Mewn cyd-destun cyfrifiadurol. A oes term wedi ei fathu? Gofynnwyd i mi
> > hefyd a oes term ar gael sy'n un gair yn unig.
> > Diolch
> > Gwen
> >
> >
>
|