Diolch, Magi. Well inni benderfynu ychydig yn rhagor o dermau gan ei bod
hi'n ymddangos bod pawb arall a'u traed i fyny o hyd, a neb i'n rhwystro ni!
Ann
----- Original Message -----
From: teulu lewis <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, January 02, 2003 2:19 PM
Subject: Re: people with Parkinson's
> Cleifion Parkinson amdani. Beiblaidd iawn .... fy atgoffa am "yn glaf
> o'r parlys....Llawer gwell na dioddefwyr ....ag ati. Rhaid cyfaddef nad
> wyf yn poeni hanner cymaint a chi am swnio'n negyddol neu'n wleidyddol
> gywir....... wfft i hynny! Gallech fod fel y dyn hwnnw hefo'r mul a'r
> mab yn chwedl Aesop (ta Hans Christian Andersen oedd o dwch...) a
> pheidio plesio unrhyw un yn y diwedd... Byddwn yn dweud cleifion y
> galon; cleifion canser ayyb felly cleifion Parkinson yn OK. Fel rheol
> byddaf yn dweud beth bynnag mae Delyth yn ei benderfynu - hen bryd iddi
> ddod a llyfr newydd allan i bobl fel ni.....
> Magi
> ----- Original Message -----
> From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, January 02, 2003 01:01
> Subject: people with Parkinson's
>
>
> > Anelir y cwestiwn hwn yn bennaf at bobl yn y byd 'meddygol', ac yn
> arbennig
> > at Delyth Prys os yw'n digwydd bod ar lein.
> >
> > Mae'r ymadrodd uchod yn codi drosodd a throsodd yn y gwaith sy' gen i.
> Mae
> > 'pobl sydd a^ chlefyd Parkinson arnynt' yn hynod o drwsgl'. Dyw Bruce
> ddim
> > yn hoffi 'pobl sydd a^ chlefyd Parkinson' ac yn awgrymu 'dioddefwyr
> clefyd
> > Parkinson', neu 'cleifion Parkinson' ond mae gen i deimlad anniddig yr
> > ystyrir y rhain yn rhy negyddol ddyddiau hyn. Ni ddefnyddir y gair
> 'suffer'
> > ond teirgwaith yn y llyfryn i gyd, ac mae'n cyfeirio bob amser at
> symptomau,
> > yn hytrach nag at unrhyw glefyd. A oes unrhyw wrthwynebiad i ddefnydd
> yr
> > ymadroddion hyn?. Beth yw'r dull cymeradwy ddyddiau hyn o gyfeirio at
> bobl
> > y mae arnynt ryw salwch efo enw hir?
> >
> > Diolch yn fawr
> >
> > Ann
>
|