Ann - Roeddwn mewn rhyw fath o aeafgwsg yr wythnos diwethaf! A dydw i ddim
yn meddwl 'mod i wedi deffro'n iawn eto chwaith, achos doedd fy neges ddim
yn glir iawn! Fyddwn i ddim yn dadlau â defnyddio 'cleifion' yn achos
aflwydd 'Parkinson's' o gwbl - ond rhywsut nid yw mor addas ym maes clefyd y
siwgr.
Gobeithio eich brod bron â dod i ben â'r gwaith - mae'n swnio'n hunllefus!
Glenys
----- Original Message -----
From: Ann Corkett <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, January 06, 2003 3:49 PM
Subject: Re: people with Parkinson's
Annwyl Glenys,
'Roeddwn i wedi aros tan y prynhawn cyn mynd trwy'r cyfan i newid 'pobl a
chlefyd Parkinson' yn 'cleifion Parkinson', felly bu bron imi anobeithio
wrth weld eich neges wedyn. A rhaid dweud mod i'n gweld y pwynt, yn
arbennig ar ol gweld y newid cymaint o weithiau ar bapur.
*Ar y llaw arall*, i) mae 'cleifion' yn llawer haws ei ddefnyddio (er y
byddaf yn ei osgoi yn yr unigol, dw i'n meddwl), ii) mae Bruce yn bedant
iawn ei farn, iii) dw i newydd siarad ag ysgrifenyddes yr arbenigwr ar
Parkinson's yn Ysbyty Eryri sy'n dweud "cleifion Parkinson's' 'dyn ni'n eu
galw nhw."
Felly, dw i'n mynd i fod yn an-PC y tro 'ma.
Diolch, beth bynnag,
Ann
----- Original Message -----
From: Glenys Roberts <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, January 06, 2003 3:22 PM
Subject: Re: people with Parkinson's
> ON i'r drafodaeth hon - rwyf wedi defnyddio 'pobl (sydd/y mae) â diabetes
> (arnynt)' yn y gorffennol - heb y geiriau mewn cromfachau pan oedd angen
bod
> yn gryno iawn. Am wn i ei bod yn well osgoi 'cleifion' yn yr achos yma -
> mae llawer ohonynt yn iachach pobl na'r rhan fwyaf ohonom!
> (Ac OON amherthasol i'r drafodaeth hon - Cymdeithas Diabetes UK yn mynnu
> defnyddio 'diabetes' yn hytrach na'r clefyd melys etc.)
>
>
> Glenys
> ----- Original Message -----
> From: Ann Corkett <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, January 02, 2003 4:19 PM
> Subject: Re: people with Parkinson's
>
>
> > Diolch, Magi. Well inni benderfynu ychydig yn rhagor o dermau gan ei
bod
> > hi'n ymddangos bod pawb arall a'u traed i fyny o hyd, a neb i'n rhwystro
> ni!
> > Ann
> > ----- Original Message -----
> > From: teulu lewis <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Thursday, January 02, 2003 2:19 PM
> > Subject: Re: people with Parkinson's
> >
> >
> > > Cleifion Parkinson amdani. Beiblaidd iawn .... fy atgoffa am "yn glaf
> > > o'r parlys....Llawer gwell na dioddefwyr ....ag ati. Rhaid cyfaddef
nad
> > > wyf yn poeni hanner cymaint a chi am swnio'n negyddol neu'n wleidyddol
> > > gywir....... wfft i hynny! Gallech fod fel y dyn hwnnw hefo'r mul a'r
> > > mab yn chwedl Aesop (ta Hans Christian Andersen oedd o dwch...) a
> > > pheidio plesio unrhyw un yn y diwedd... Byddwn yn dweud cleifion y
> > > galon; cleifion canser ayyb felly cleifion Parkinson yn OK. Fel rheol
> > > byddaf yn dweud beth bynnag mae Delyth yn ei benderfynu - hen bryd
iddi
> > > ddod a llyfr newydd allan i bobl fel ni.....
> > > Magi
> > > ----- Original Message -----
> > > From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
> > > To: <[log in to unmask]>
> > > Sent: Thursday, January 02, 2003 01:01
> > > Subject: people with Parkinson's
> > >
> > >
> > > > Anelir y cwestiwn hwn yn bennaf at bobl yn y byd 'meddygol', ac yn
> > > arbennig
> > > > at Delyth Prys os yw'n digwydd bod ar lein.
> > > >
> > > > Mae'r ymadrodd uchod yn codi drosodd a throsodd yn y gwaith sy' gen
i.
> > > Mae
> > > > 'pobl sydd a^ chlefyd Parkinson arnynt' yn hynod o drwsgl'. Dyw
Bruce
> > > ddim
> > > > yn hoffi 'pobl sydd a^ chlefyd Parkinson' ac yn awgrymu 'dioddefwyr
> > > clefyd
> > > > Parkinson', neu 'cleifion Parkinson' ond mae gen i deimlad anniddig
yr
> > > > ystyrir y rhain yn rhy negyddol ddyddiau hyn. Ni ddefnyddir y gair
> > > 'suffer'
> > > > ond teirgwaith yn y llyfryn i gyd, ac mae'n cyfeirio bob amser at
> > > symptomau,
> > > > yn hytrach nag at unrhyw glefyd. A oes unrhyw wrthwynebiad i
ddefnydd
> > > yr
> > > > ymadroddion hyn?. Beth yw'r dull cymeradwy ddyddiau hyn o gyfeirio
at
> > > bobl
> > > > y mae arnynt ryw salwch efo enw hir?
> > > >
> > > > Diolch yn fawr
> > > >
> > > > Ann
> > >
>
|